Dyluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno gwnïo i ddysgwyr sydd â diddordeb mewn gwisgoedd, ffasiwn a thecstilau. Mae’n berffaith i ddechreuwyr neu’r rhai sy’n dymuno rhoi sglein ar eu sgiliau sylfaenol.
Bydd dysgwyr yn magu hyder wrth ddefnyddio offer, cyfarpar a pheiriannau yn ddiogel, wrth edrych ar ystod o dechnegau gwnïo â llaw a pheiriant. Trwy sesiynau ymarferol dan arweiniad, bydd dysgwyr yn ymarfer sgiliau hanfodol fel semau, hemiau a ffasninau, ac yna’n defnyddio’r technegau hyn i greu eitem decstil wedi’i gorffen.
Mae’r cwrs hwn yn unigryw oherwydd mae’n canolbwyntio ar gymhwyso creadigol, gan annog dysgwyr i ystyried gwnïo fel sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach neu brosiectau creadigol personol.
Bydd y cwrs yn cwmpasu:
Wythnos 1: Cyflwyniad i offer a chyfarpar gwnïo, iechyd a diogelwch, Ffabrigau, pwytho llaw sylfaenol, a dechrau dogfennu portffolio.
Wythnos 2: Hanfodion peiriant gwnïo, edafu, ymarfer pwytho syth a samplau sêm
Wythnos 3: Technegau creu a semau, gan gynnwys tacluso ymylon a phwyso
Wythnos 4: Technegau hemio a gorffen, gan gynnwys wyneb-bwytho
Wythnos 5: Ffasninau, fel botymau a thyllau botymau neu sip syml
Wythnos 6: Cynllunio prosiect tecstil syml, creu patrwm syml, mesuro, marcio a thorri ffabrig.
Wythnos 7: Creu eitem decstil wedi’i gwnïo gan ddefnyddio technegau a ddysgwyd.
Wythnos 8: Gorffen yr eitem decstil, adolygu sgiliau ac asesu
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £75.00
Bydd dysgwyr yn gallu defnyddio gweithdai Ffasiwn a Thecstilau arbenigol. Mae gan y gweithdai hyn beiriannau gwnïo, cyfarpar pwyso ac ystod o offer llaw. Mae mannau stiwdio’n cefnogi ymchwilio creadigol ac arferion gweithio diogel.
Bydd addysgu’n digwydd drwy gyfrwng arddangosiadau ymarferol, gweithdai dan arweiniad a chymorth unigol.
Bydd y gwaithymarferol a chwblhau eitem wedi’i gwnïo yn cyfrannu at yr asesiad, ynghyd â thystiolaeth o ddefnyddio o leiaf dau sgil neu dechneg gwnïo, yn unol â gofynion uned CDF173 Agored.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall dysgwyr fwrw ymlaen i gwrs rhan amser arall neu gwrs llawn amser mewn Ffasiwn, Tecstilau neu Gelf a Dylunio. Mae’r cwrs hwn hefyd yn darparu sylfaen gadarn i brosiectau creadigol personol neu ddatblygu sgiliau ar lefel mynediad mewn llwybrau gwisgoedd neu lwybrau sy’n ymwneud â ffasiwn.
neu
Gyrsiau Llawn Amser: