Archwilio technegau clai a ceramig mewn modd hwyliog a heb fygythiad. Byddwch yn dysgu prosesau gwahanol i’w ymgorffori yn eich arferion ceramig fesul wythnos.
Mae'r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr llwyr a’r rhai gydag ychydig o brofiad.
Drwy gydol y cwrs byddwch yn arbrofi gyda thechnegau megis adeiladu slabiau, torchi, mowldio gwasg a gwydro. Byddwch yn cyfuno technegau, fel y dymunwch, i greu darnau ceramig. Bydd hyn yn cynnwys cael gweld sut i ddefnyddio offer yn ddiogel a dysgu unrhyw agweddau iechyd a diogelwch o ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau ac offer.
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd yn y pwnc a bod yn barod i astudio yn annibynnol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ddiwedd y cwrs hwn byddwch wedi datblygu technegau ceramig y byddwch yn fwy hyderus ynddynt ac yn eu datblygu yn eich arfer ceramig.
Byddwch wedi creu portffolio o waith yn barod ar gyfer unrhyw astudiaethau yn y dyfodol neu ar gyfer cyflogaeth mewn meysydd creadigol.