Nod y cwrs yw datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o weithio’n ddiogel ac yn greadigol gydag amrywiaeth o ddeunyddiau, technegau a phrosesau. Bydd y cwrs yn galluogi dysgwyr i archwilio, arbrofi a deall sut i ddefnyddio ystod o ddeunyddiau, technegau a phrosesau o fewn Celf, Crefft a Dylunio.
Byddwch yn gallu archwilio a defnyddio deunyddiau a phrosesau mewn gwaith celf. Byddwch yn creu portffolio o waith celf arbrofol a chreadigol ac yn cynhyrchu gwaith terfynol 2D/3D o’ch dewis gan ddefnyddio’r cyfryngau a’r prosesau a archwiliwyd yn ystod y cwrs Celf.
Ar y cwrs, byddwn yn trafod y canlynol:
Mae gan y coleg weithdai Celf a Dylunio a chyfleusterau cyfrifiadurol eang. Mae ardaloedd Celf arbenigol yn cynnwys Celfyddyd Gain, Cerameg, Printio a Ffasiwn a Thecstilau.
Hefyd, cynhyrchu CAD/CAM gan gynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser, peiriannau CNC a thorwyr finyl.
Ffi Arholiad : £20.00
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £65.00
Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd mewn Celf, Crefft a dylunio a chael eu hysgogi i ddysgu. Dim angen cymwysterau na phortffolio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Fe wnes i fynychu pob dosbarth ac fe wnes i fwynhau pob proses. Roedd pob modiwl yn glir ac yn gryno, gan gefnogi cyflwyniad hawdd i bob gwahanol broses, gan fy ngalluogi i gael canlyniad llwyddiannus. Llwyddodd yr archwiliad hwn o brosesau a thechnegau dros gyfnod o 7 wythnos o wersi dan arweiniad i lenwi fy mhen gyda syniadau a rhoi’r hyder i mi greu amrywiaeth o ddarnau creadigol.
Roedd gen i diwtor gwych a oedd mor garedig ac amyneddgar wrth gyflwyno theori a sut i ddefnyddio’r gwahanol brosesau. Roedd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i mi fel dysgwr hŷn, yn enwedig fel un sydd heb arfer â defnyddio cyfrifiadur, ac erbyn hyn, rydw i wrth fy modd ac wedi cofrestru ar gyfer cwrs Cyflwyniad i CAD/CAM Lefel 3.”
Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen i astudio naill ai ein:
Cyrsiau Rhan Amser:
Neu
Gyrsiau Llawn Amser: