Mae ein Tystysgrif mewn Astudiaethau Cwnsela ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd eisiau parhau â'u cynnydd o Sgiliau Cwnsela Lefel 2. Wedi'i lleoli ar ein Campws yn y Barri ar Heol Colcot, mae'r rhaglen hon yn parhau i ddatblygu sgiliau gwrando ymarferol disgyblion a hefyd yn cyflwyno nifer o ddamcaniaethau cwnsela. Gan astudio yn ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau penodol y coleg, mae'r cwrs hwn yn amlinellu'r arfer o oruchwyliaeth glinigol a gofynion gweithio mewn asiantaeth gwnsela.
Mae'r cymhwyster yn paratoi'r dysgwyr ar gyfer Lefel 4 mewn Cwnsela Therapiwtig ond bydd hefyd yn cadarnhau gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar gyfer y rhai sydd eisiau gadael y rhaglen yn y pwynt hwn.
Bydd y myfyrwyr yn astudio sawl agwedd ar gwnsela, gan gynnwys:
Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00
Ffi Cwrs: £651.00
Ffi Arholiad : £189.00
Tystysgrif mewn Sgiliau Cwnsela Lefel 2 neu gyfwerth. Mae profiad o weithio mewn rôl sy'n helpu mewn gwaith gofal/gwaith cefnogi neu nyrsio yn ddefnyddiol. Dylai ymgeiswyr fod yn 18 oed neu hŷn. Cyfweliad Llwyddiannus.
Y Barri - 12:00 - 15:00 - Dydd Mercher
- 18:00 - 20:30 - Dydd Iau
Caerdydd - 18:00 - 21:00 - Dydd Mawrth a dydd Mercher
Ar y rhaglen hon byddwch yn cael eich asesu drwy:
Arholiadau allanol Bydd dulliau dysgu amrywiol yn cael eu defnyddio, gan gynnwys chwarae rôl.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster yma, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch mewn Cwnsela. Hefyd rydyn ni'n cynnig y Diploma Lefel 4 mewn Cwnsela Therapiwtig. Edrychwch ar y daflen ffeithiau am ragor o wybodaeth am y rhaglen yma.