Rheoli Gwastraff (Cyflwyniad)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
6 Hydref 2025 — 10 Hydref 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs “Cyflwyniad i Reoli Gwastraff” yn cynnig dealltwriaeth sylfaenol ynglŷn ag ymarferion rheoli gwastraff, yn ymdrin â dosbarthu gwastraff, technegau ailgylchu, dulliau gwaredu, a datrysiadau cynaliadwy.

Mae’n ystyried effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol, ac economaidd gwastraff, ac yn amlygu’r pwysigrwydd o leihau, ailddefnyddio, ac ailgylchu i hyrwyddo cynaliadwyedd. Bydd unigolion sydd awydd gwella eu dealltwriaeth o reoli gwastraff, boed er diddordeb personol, datblygiad proffesiynol, neu eiriolaeth amgylcheddol, yn elwa o’r cwrs hwn.

Trwy ddarparu cipolwg ymarferol a chysyniadau sy’n berthnasol i’r diwydiant, mae’r cwrs yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i gyfrannu at ymarferion rheoli gwastraff effeithiol, gan gynorthwyo i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

  • Trosolwg o egwyddorion rheoli gwastraff
  • Y mathau o wastraff (solet, hylif, peryglus)
  • Cynhyrchu gwastraff a ffynonellau gwastraff
  • Casglu a chludo gwastraff
  • Technegau ailgylchu ac ailddefnyddio
  • Technolegau trin gwastraff
  • Ymarferion rheoli gwastraff yn gynaliadwy
  • Effeithiau amgylcheddol gwastraff
  • Strategaethau lleihau gwastraff
  • Rheoliadau a pholisïau
  • Egwyddorion yr economi gylchol

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Ffi Cwrs: £20.00

Gofynion mynediad

Nid oes angen profiad ym maes adeiladu, byddwn yn mesur eich brwdfrydedd a’ch ymrwymiad yn ystod y cam cyfweld.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

6 Hydref 2025

Dyddiad gorffen

10 Hydref 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CPCC3P08AA
L3

Cymhwyster

Waste Management (Introduction)

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Amgylchedd Adeiledig L3 Adeiladwaith neu HNC mewn Rheoli Adeiladwaith.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE