Plastro a Phaentio ac Addurno - Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

L2 Lefel 2
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn darparu cyflwyniad eang i adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Cafodd ei ddatblygu ar gyfer unigolion sy'n dymuno gweithio, yn y sectorau. Mae wedi'i dargedu at ddysgwyr sy'n dysgu yn seiliedig ar waith, mewn addysg bellach, a chweched dosbarth mewn ysgolion. Bydd y cymhwyster yn galluogi myfyrwyr i fynd ymlaen i astudio ystod o gyrsiau eraill ym maes adeiladu a BSE sy'n berthnasol i’r maes crefft sydd o ddiddordeb iddynt.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd pob dysgwr yn cwblhau unedau craidd sy’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ragarweiniol o’r canlynol: cyflwyniad i’r sectorau adeiladau ac amgylchedd adeiledig a chylch bywyd yr amgylchedd adeiledig, y rolau swyddi oddi fewn, a’r dibyniaethau rhwng pobl sy’n cyflawni’r rolau hynny i hyrwyddo a chynnal iechyd a diogelwch ar gyfer eu hunain ac eraill; a sgiliau cyflogadwyedd sy’n berthnasol i waith i’r dyfodol.

Yn ogystal â'r unedau 'craidd' hyn, bydd dysgwyr yn astudio dau lwybr masnachu ac yn treulio amser yn dysgu sgiliau newydd, fydd yn cynnwys cynllunio, perfformio, a gwerthuso tasgau cyffredin.

Bydd y llwybr plastro yn datblygu gwybodaeth ar,

  • Beth yw’r gwahanol fathau o systemau plastro?
  • Pam mae angen i ni ddysgu am nodweddion gwahanol gefndiroedd?
  • Pa sgiliau sydd angen i mi eu dysgu a’u hymarfer i ddatblygu a bod yn blastrwr medrus?

Bydd y llwybr peintio yn datblygu gwybodaeth ar Beth yw’r gwahanol fathau o arwynebau peintio a sut y byddaf yn eu paratoi ar gyfer eu gwneud

yn barod i’w peintio?

  • Beth yw’r gwahanol fathau o haenau arwyneb a pha dechneg taenu fyddaf yn ei defnyddio i’w taenu?
  • Sut i ddefnyddio offer i gyrraedd mannau lletchwith, anodd eu cyrraedd?
  • Sut i weithio’n ddiogel i sicrhau iechyd a diogelwch fy hun ac eraill sydd o fy nghwmpas?

Gofynion mynediad

Rhaid bod gan ymgeiswyr dri TGAU A* - D neu fod yn gweithio ar hyn o bryd yn y diwydiant adeiladu.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

19 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PAPCC2F01
L2

Cymhwyster

Plastering and Painting & Decorating - Foundation in Construction and the Built Environment

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Dilyniant mewn Peintio neu blastro

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE