Plastro (Cynnydd yn unig)

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae plastrwyr yn rhoi plastr ar waliau a nenfydau yn barod i'w haddurno a'u gorffen. Mae cyflogau'n amrywio o £19,000 i £34,000 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad. Byddwch fel arfer yn gweithio mewn tîm a byddwch yn:

  • Amcangyfrif faint o ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer tasg.
  • Paratoi arwynebau a lefelu ardaloedd anwastad.
  • Cymysgu plastr i'r tewdra cywir â llaw neu gyda chymysgwr trydan.
  • Rhoi gorffeniadau ‘gwlyb’ ar waliau a nenfydau – plastro solet.
  • Creu nodweddion addurniadol fel rhosod nenfwd, cornisiau ac architrafau - plastro ffibrog.
  • Gosod partisiynau mewnol plastrfwrdd neu walbord mewn ystafelloedd - leinin sych.
  • Gorchuddio waliau allanol gyda gorchuddion amddiffynnol fel gro chwipio neu rendrad.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Byddwch yn astudio’r modiwlau canlynol:

  • 225 Gwybodaeth graidd plastro solet
  • 226 Cynhyrchu gorffeniadau plastro solet mewnol
  • 227 Rhoi rendrad solet ar arwynebau cefndir a chynhyrchu gorffeniadau.

Bydd myfyrwyr angen esgidiau diogelwch a dillad sbâr wrth weithio gyda deunyddiau gwlyb.

Gofynion mynediad

Cwblhau cwrs sylfaen neu brofiad o weithio fel plastrwr o fewn y diwydiant. Addas i fyfyrwyr dros 19 oed.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

19 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PLCC2F04
L2

Cymhwyster

City and Guilds Progression in Construct

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gallech fynd ymlaen i wneud prentisiaeth mewn plastro neu gwrs Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE