Paentio ac Addurno

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Os hoffech ddechrau gyrfa newydd mewn Paentio ac Addurno a bod gennych beth profiad neu ddim profiad o gwbl, mae'r cymhwyster Lefel 1 mewn Paentio ac Addurno wedi'i ddatblygu i'w ddarparu mewn amgylchedd hyfforddiant; golyga hyn nad oes angen i chi fod mewn gwaith i astudio'r cymhwyster hwn.

Mae wedi'i ddylunio i ddatblygu eich sgiliau, gwybodaeth a'ch dealltwriaeth fel y gallwch weithio mewn Paentio ac Addurno yn y diwydiant adeiladwaith neu fynd ymlaen i hyfforddiant pellach.

Bydd y cymhwyster Lefel 1 hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn Paentio ac Addurno ac yn eich paratoi chi i ymgymryd â chymwysterau pellach i ddatblygu'ch sgiliau, gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o fewn Paentio ac Addurno.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cyflwynir y cwrs hwn yn rhan amser ac mae'n gofyn presenoldeb o un diwrnod yr wythnos, bydd ein staff profiadol a chymwys yn eich cefnogi a'ch arwain chi i fodloni lefel cymhwysedd y Corff Dyfarnu.

Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol a gwybodaeth mewn:

  • Iechyd a Diogelwch yn y fasnach adeiladwaith
  • Gweithio a chyfathrebu'n effeithiol mewn adeiladwaith
  • Rhoi paent ar wynebau gwahanol
  • Gosod papur wal ar wynebau gwahanol
  • Paratoi amrywiaeth o wynebau ar gyfer paentio ac addurno.

Yn ogystal, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau'r cwrs. Gellir prynu'r esgidiau gan unrhyw fanwerthwr.

Cyfleusterau

Byddwch yn dysgu trwy brofiad uniongyrchol ac erbyn diwedd eich cwrs byddwch wedi'ch cyfarparu â sgiliau ymarferol yn ogystal â gwybodaeth ddamcaniaethol.

Mae ein cyfleusterau proffesiynol yn gwbl ardystiedig ac yn cael cefnogaeth gan gyrff dyfarnu a'r diwydiant. Mae gan ein tiwtoriaid brofiad a gwybodaeth bersonol sy'n eu galluogi nhw i ymdrin â'r holl wybodaeth ymarferol a thechnegol hanfodol.

Addysgu ac Asesu

Bydd dysgwyr ar y rhaglen hon yn derbyn cynllun hyfforddiant a fydd yn cael ei drefnu o'r sgriniad mynediad. Cewch gymorth i ddatblygu'ch sgiliau dwylo a gwybodaeth ddiwydiannol i lefelau'r corff dyfarnu.

I lwyddo yn y cwrs hwn, bydd angen i chi gwblhau'r holl asesiadau ymarferol a damcaniaethol yn llwyddiannus, gwneir yr holl asesiadau i fodloni gofynion y corff dyfarnu.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o ennill 3 TGAU Gradd D - F neu uwch. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar sail cyfweliad, ac asesiad a chyfweliad sgiliau boddhaol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rwyf wedi mwynhau bod o gwmpas Campws Canol y Ddinas, mae'n amgylchedd braf ac mae pawb yn cyd-dynnu'n dda. Uchafbwynt fy amser yn y coleg oedd gwneud ffrindiau newydd a'r amgylchedd gwahanol i'r ysgol. Gallwch ennill sgiliau newydd a gwneud pethau nad oeddech yn meddwl y gallech eu gwneud o'r blaen.

David Warner
Paentio ac Addurno Lefel 2

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Os ydych yn llwyddo yn y cwrs hwn, gallwch wneud cais i fynd ymlaen ar y rhaglen ddilyniant lefel dau. Gall dysgwyr sydd wedi dangos presenoldeb o safon uchel ac agwedd gadarnhaol gael eu hargymell am unrhyw brentisiaeth sydd ar gael

Paentio ac Addurno

Paentio ac Addurno

Paentio ac Addurno

Paentio ac Addurno

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

DB2,
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ