Hyfforddiant Cerdyn Llafurwr Gwyrdd CSCS

L1 Lefel 1
Rhan Amser
3 Mehefin 2024 — 7 Mehefin 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Wobr Lefel 1 mewn Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu wedi cael ei datblygu ar gyfer darpariaeth mewn amgylchedd hyfforddi ac wedi ei dylunio i:

  • datblygu sgiliau dysgwyr a gwybodaeth ar y lefel hon. 
  • paratoi dysgwyr i gwblhau cymwysterau pellach er mwyn datblygu eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o fewn eu crefft ddewisol. 
  • cwblhau gofynion hyfforddiant CSCS ar gyfer cerdyn y Llafurwr. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr 1 modiwl gorfodol: 

  • Iechyd a diogelwch mewn amgylchedd adeiladu. 

Addysgir y rhaglen gan ddefnyddio cyfuniad o ddarlithoedd a thiwtorialau. Asesir y rhaglen drwy gyfrwng arholiad aml-ddewis a chwblhau llyfr gwaith. 

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £17.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Gofynion mynediad

Rhaid bod yn o leiaf 16 oed. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Mehefin 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

30 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

HASACC1P01
L1

Cymhwyster

NOCN_Cskills Awards Level 1 in Health and Safety in a Construction Environment

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant hwn yn llwyddiannus byddwch wedyn yn gallu gwneud cais i sefyll eich prawf CSCS mewn Canolfan Pearson er mwyn cael y cerdyn Llafurwr Gwyrdd.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE