Rheoli Adeiladu (Cyflwyniad)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
28 Ebrill 2025 — 11 Gorffennaf 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i: cavc.ac.uk/cy/parttimefunding

Ynghylch y cwrs hwn

Ydych chi erioed wedi edrych ar ysgol, gwesty neu fath arall o strwythur ac wedi meddwl “sut wnaethon nhw adeiladu hwn?”

Mae Rheoli Adeiladu yn ymwneud â rheoli holl rannau a thimau symudol prosiect adeiladu. Mae Rheolwyr Adeiladu yn darparu gwasanaeth i berchnogion prosiect er mwyn iddynt reoli amserlen, cost, diogelwch, cwmpas a swyddogaeth y prosiect. Nod y cwrs hwn yw rhoi cyflwyniad i’r maes hwn i chi.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ymysg y pynciau a drafodir ar y cwrs hwn bydd:

  • Cynllunio
  • Rhagadeiladu
  • Adeiladu
  • Gorffen

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £20.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Gofynion mynediad

Nid oes angen profiad mewn adeiladwaith, byddwn yn mesur eich brwdfrydedd ac ymrwymiad yn ystod y cyfweliad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

28 Ebrill 2025

Dyddiad gorffen

11 Gorffennaf 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i: cavc.ac.uk/cy/parttimefunding

Cod y cwrs

CPCC3P07AA
L3

Cymhwyster

CAVC Certificate

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Gall myfyrwyr symud ymlaen i gwrs L3 Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig neu HNC mewn Rheoli Adeiladu, yn dibynnu ar eu profiad a’u cymwysterau blaenorol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE