Cwrs Hyfforddiant Gloywi CITB SSSTS

L4 Lefel 4
Rhan Amser
18 Chwefror 2026 — 19 Chwefror 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs ar-lein Gloywi SSSTS yn ffordd berffaith o ddiweddaru eich gwybodaeth iechyd a diogelwch bresennol, ynghyd ag unrhyw newidiadau yn y gyfraith a sut allent effeithio ar eich lleoliad gweithio.

Yr un fath â’r cwrs SSSTS, mae’r cwrs Gloywi SSSTS wedi ei achredu. Erbyn diwedd y cwrs Gloywi SSSTS, byddwch yn gallu:

  • Gorfodi’r holl ddeddfau cyfredol o ran yr amgylchedd, llesiant, diogelwch ac iechyd sy’n effeithio ar eich galluoedd goruchwylio
  • Gorfodi unrhyw ganllawiau newydd ac arferion gorau perthnasol sy’n deillio o unrhyw newidiadau
  • Bodloni eich cyfrifoldebau iechyd, diogelwch, llesiant ac amgylcheddol

Beth fyddwch chi’n ei astudio

  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
  • Blaenoriaethau gorfodi cyfredol / yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch / yr Amgylchedd.
  • Gweithdrefnau argyfwng a risg tân ac adrodd arnynt.
  • Diweddariadau arferion gorau ar Sŵn a chryndod, Dermatitis, Asbestos, Cyffuriau ac alcohol a ffactorau sy'n achosi Straen.
  • Gweithdrefnau asesu risg grymus.
  • Sylweddau peryglus.
  • Gweithio o uchder.
  • Codi a chario.
  • Sgyrsiau ar Becynnau Offer.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £260.00

Gofynion mynediad

Dylai ymgeiswyr fod yn gyfrifol am gynllunio, trefnu, rheoli a monitro gweithlu adeiladu. Rhaid bod yn gymwys mewn Saesneg Ysgrifenedig a Llafar. Bydd angen i ymgeiswyr ddod â gliniadur neu ddyfais i bob sesiwn.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

18 Chwefror 2026

Dyddiad gorffen

19 Chwefror 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

12 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CPCC4PR1AA
L4

Cymhwyster

CITB SMSTS Refresher Training Course

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE