Cyrsiau Hyfforddi CITB SSSTS

L4 Lefel 4
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheolwr Safle (SMSTS) yn gwrs x 5 diwrnod, sy'n darparu Rheolwyr Safle gyda dealltwriaeth o faterion iechyd, diogelwch, lles ac amgylcheddol, yn ogystal â'r cyfrifoldebau cyfreithiol sydd ganddynt yn berthnasol i'w gweithgareddau gwaith. Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i gefnogi rheolwyr safle i: Reoli a gweithredu agweddau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol ar y safle, yn unol â'r ddarpariaeth gyfreithiol bresennol yng nghyd-destun y rôl. Gweithredu canllawiau newydd ac arferion gorau o fewn y diwydiant. Datblygu dealltwriaeth o gyfrifoldeb ac atebolrwydd am iechyd, diogelwch, lles a'r amgylchedd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

  • Modiwl 1 - Cyfreithiol a Rheoli
  • Modiwl 2 - Iechyd a Lles
  • Modiwl 3 - Diogelwch Cyffredinol
  • Modiwl 4 - Gweithgareddau Risg Uchel - Tasgau Craidd Safle Adeiladu y Prosiect

Mae yna elfen o'r prosiect a gynhwysir yn rhan o'r cwrs hwn sy'n gofyn am gyflwyniad. Byddai bod â mynediad at liniadur neu ddyfais clyfar megis tabled o fudd wrth baratoi ar gyfer y cyflwyniad.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £361.00

Ffi Arholiad : £128.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Gofynion mynediad

Dylai ymgeiswyr fod yn gyfrifol am gynllunio, trefnu, rheoli a monitro gweithlu adeiladu. Rhaid bod yn gymwys mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar. Bydd angen i ymgeiswyr ddod â gliniadur neu ddyfais i bob sesiwn.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

30 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CPCC4PT1AA
L4

Cymhwyster

CITB Site Management Safety Training Scheme (SMSTS)

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Ar ôl cwblhau’r cwrs SMSTC gall dysgwyr fynd ymlaen i astudio HNC neu HND mewn Adeiladu.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE