Mae’r Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig yn darparu cyflwyniad eang i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n bwriadu gweithio yn y sectorau hyn. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr mewn dysgu sy’n seiliedig ar waith, addysg bellach, a chweched dosbarth ysgolion. Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amryw o gyrsiau adeiladu a sector yr amgylchedd adeiledig eraill sy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau unedau craidd sy’n cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth ragarweiniol a dealltwriaeth o: cyflwyniad i’r sectorau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, cylch bywyd yr amgylchedd adeiledig, y swyddi sydd ynddo, a’r ddibyniaeth a welir rhwng pobl sy’n gwneud y swyddi hynny er mwyn hyrwyddo a chynnal iechyd a diogelwch eich hunan ac eraill; a sgiliau cyflogadwyedd sy’n berthnasol i waith yn y dyfodol. Yn ychwanegol at yr unedau ‘craidd’ hyn, bydd dysgwyr yn astudio dau lwybr crefft ac yn treulio amser yn dysgu sgiliau, gan gynnwys cynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau cyffredin.
Galwedigaethau gwaith pren: Bydd yr uned hon yn galluogi dysgwyr i ymarfer a datblygu sgiliau allweddol mewn gwaith saer ac asiedydd. Bydd dysgwyr hefyd yn dod i ddeall y rôl, yr offer, y deunyddiau a’r cyfarpar a ddefnyddir wrth gyflawni tasgau gwaith coed.
Galwedigaethau gwaith toi: Pwrpas yr uned hon ydy i ddysgwyr ddeall cwmpas y diwydiant gwaith toi, gyda throsolwg o’r sgiliau traddodiadol/treftadaeth i ddulliau modern, gan alluogi dysgwyr i fynd ymlaen i weithio ar amrywiaeth o adeiladau o adeileddau a godwyd cyn 1919 megis cestyll i dai newydd sbon. Bydd dysgwyr yn ystyried y defnydd o wahanol offer, cyfarpar ac adnoddau ar gyfer gosod cefndiroedd a gorchuddion. Bydd dysgwyr yn cael cyflwyniad i osod haenau gwaelodol ac estyll ar fesuriadau safonol.
Rhaid bod gan ymgeiswyr dri TGAU A* - D neu fod yn gweithio ar hyn o bryd yn y diwydiant adeiladu.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Rwyf wedi bod yn berson ymarferol erioed ac yn mwynhau gweithio gyda’m dwylo, felly roedd y cwrs Gwaith Coed yn teimlo’n llawer mwy addas ar fy nghyfer. Rwyf yn ymwybodol fod dysgu’r grefft hon o fantais i mi at y dyfodol o ran cyfleoedd cyflogaeth. Mae’r tiwtoriaid yn anhygoel a’r cyfleusterau’n dda iawn yma!
Ar ôl y cwrs hwn, gallwch chi fynd ymlaen i gyrsiau Gwaith Saer ychwanegol.