Gwaith Coed a Phaentio ac Addurno - Rhaglen Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn darparu cyflwyniad eang i adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Cafodd ei ddatblygu ar gyfer unigolion sy'n gweithio ar hyn o bryd, neu'n bwriadu gweithio yn y sectorau.
Mae wedi'i dargedu at ddysgwyr sy'n dysgu yn seiliedig ar waith, mewn addysg bellach, a chweched dosbarth mewn ysgolion. Bydd y cymhwyster yn galluogi myfyrwyr i fynd ymlaen i astudio ystod o gyrsiau eraill ym maes adeiladu a BSE sy'n berthnasol a'r maes crefft sydd o ddiddordeb iddynt.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd pob dysgwr yn cwblhau unedau craidd sy'n eu cefnogi i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gychwynnol o:

  • gyflwyniad i'r sectorau adeiladu a'r amgylchedd adeiledig
  • cylch bywyd yr amgylchedd adeiledig, a'r swyddi oddi mewn iddo, a'r dibyniaethau rhwng y bobl sy'n gwneud y swyddi hynny
  • sut i hyrwyddo a chynnal iechyd a diogelwch drosoch chi eich hun ac eraill; a
  • sgiliau cyflogadwyedd sy'n berthnasol â gwaith yn y dyfodol.

Yn ogystal â'r unedau 'craidd' hyn, bydd dysgwyr yn astudio dau lwybr masnachu ac yn treulio amser yn dysgu sgiliau newydd, fydd yn cynnwys cynllunio, perfformio, a gwerthuso tasgau cyffredin.

Gwaith Coed: Bydd y rhan hwn o'r cwrs yn dangos i chi sut i ymarfer a datblygu sgiliau gwaith coed a saernïaeth drwy ddefnyddio offer llaw ac offer pŵer. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn ennill dealltwriaeth o'r swyddi, offer, deunyddiau, ac offer a ddefnyddir wrth gyflawni tasgau gyda choed.

Paentio ac Addurno: Bydd y rhan hwn o'r cwrs yn dangos i chi sut i baratoi arwynebau noeth a rhai sydd eisoes wedi'u paentio, a rhoi haenau dŵr a thoddol gyda brwsh a rholbren ar arwynebau syml. O fewn yr uned, dysgir sut i ddefnyddio offer mynediad a llwyfannau gweithio i gwblhau’r tasgau hyn.

Byddwch yn astudio yn ein canolfannau adeiladu sydd â chyfleusterau pwrpasol. Mae'r rhain yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer gwaith theori a gweithdai masnach-benodol enfawr lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol bob wythnos gan ddefnyddio offer safonol y diwydiant.

Mae asesiadau eich cwrs yn cynnwys set o aseiniadau a'u defnyddir i fesur datblygiad eich sgiliau ac asesiadau ar ddiwedd y flwyddyn, gan gynnwys profion sgiliau ymarferol ac arholiadau ar-lein.

Yn ogystal, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau'r cwrs. Gellir prynu'r esgidiau gan unrhyw fanwerthwr.

Gofynion mynediad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

19 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

WADCC2F01
L2

Cymhwyster

City & Guilds Foundation in Construction

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rwyf wedi bod yn berson ymarferol erioed ac yn mwynhau gweithio gyda’m dwylo, felly roedd y cwrs Gwaith Coed yn teimlo’n llawer mwy addas ar fy nghyfer. Rwyf yn ymwybodol fod dysgu’r grefft hon o fantais i mi at y dyfodol o ran cyfleoedd cyflogaeth. Mae’r tiwtoriaid yn anhygoel a’r cyfleusterau’n dda iawn yma!

Megan Millward
Myfyriwr presennol Lefel 2 Gwaith Saer ac Asiedydd

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallwch ddewis y grefft a ddymunir gennych a symud ymlaen i gwrs neu brentisiaeth lefel uwch.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE