Crefftau Adeiladu - Cyn-sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs adeiladu cyn-sylfaen hwn wedi ei ddylunio i ddarparu dull sylfaenol i weithdrefnau adeiladu i fyfyrwyr. Mae'n paratoi dysgwyr i symud ymlaen at y cymhwyster sylfaen mewn adeiladu.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Bydd y cwrs yn datblygu eich gwybodaeth a sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â gweithdrefnau adeiladu, a byddwch yn trafod ystod o weithgareddau, ac yn ennill profiad o offer a chrefft, gan gynnwys:
- Gosod brics
- Gwaith Coed
- Paentio ac Addurno
- Plastro
- Teilsio waliau a lloriau
Byddwch yn astudio yn ein canolfannau adeiladu sydd â chyfleusterau pwrpasol. Mae'r rhain yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer gwaith theori a gweithdai masnach-benodol enfawr lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol bob wythnos gan ddefnyddio offer safonol y diwydiant.
Mae asesiadau eich cwrs yn cynnwys set o aseiniadau i’w defnyddio i fesur datblygiad eich sgiliau ac asesiadau ar ddiwedd y flwyddyn, gan gynnwys profion sgiliau ymarferol ac arholiadau ar-lein.
Yn ogystal, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau'r cwrs. Gellir prynu'r esgidiau gan unrhyw fanwerthwr.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00
Gofynion mynediad
Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU ar radd D - F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio. CDP/Offer sydd ei angen i astudio - Esgidiau diogelwch, dillad gwaith neu oferôls i newid iddynt ar gyfer sesiynau ymarferol.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cyfleusterau
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu