Gosod brics

L1 Lefel 1
Rhan Amser
6 Hydref 2025 — 15 Rhagfyr 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Wobr Lefel 1 hon mewn gosod brics yn gwrs blaenllaw ar gyfer unigolion sy’n chwilio am newid mewn gyrfa. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu rhai o'r sgiliau addas ar gyfer gweithio fel gosodwr brics yn y diwydiant adeiladu. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd Dyfarniad Lefel 1 mewn gwaith brics yn helpu i ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer plastro bwrdd a sgimio. Enghraifft o'r unedau dan sylw yw:

  • Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu
  • Adeiladu waliau hanner-bric
  • Adeiladu waliau bloc

Asesir y cymhwyster hwn drwy asesiadau ymarferol ac asesiad theori ar gyfer yr uned Iechyd a Diogelwch.

Ar ôl cwblhau’r Dyfarniad Lefel 1, gall myfyrwyr symud ymlaen i’r Cymwysterau Sylfaen Newydd y bwriedir eu cyflwyno ym mis Medi.

Yn ogystal, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau'r cwrs. Gellir prynu'r esgidiau gan unrhyw fanwerthwr.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £84.00

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £56.00

Gofynion mynediad

Nid oes angen profiad mewn adeiladwaith, byddwn yn mesur eich brwdfrydedd ac ymrwymiad yn ystod y cyfweliad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

6 Hydref 2025

Dyddiad gorffen

15 Rhagfyr 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

TTCC1P02AA
L1

Cymhwyster

Bricklaying

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Sbardunodd fy niddordeb mewn cymryd rhan yn y cwrs hwn pan wnaeth rhywun rwy’n ei adnabod roi gwybod imi fod CCAF yn cynnig dosbarth addysg i oedolion, un noson yr wythnos, mewn gwaith brics.  
Roedd y ffordd y darparwyd y cwrs (ar nosweithiau) yn berffaith ar gyfer fy mhatrwm gweithio.  Yn gweithio mewn swydd gonfensiynol feichus, nosweithiau oedd yr unig ddewis i mi, felly, roedd y cwrs hwn yn berffaith.
Hyd yn hyn, mae’r modiwlau rwyf wedi eu cwblhau yn cynnwys gwaith ‘brics wyneb’, gwaith ‘brics blociau’, gwaith pwyntio a mecaneg awyru’r mortar yn barhaus.  Ar ôl pob sesiwn, mae’r sianel ar-lein bwrpasol (YouTube) yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr adolygu cynnwys y sesiwn, yn ogystal â chael golwg ar beth sydd gan sesiynau’r dyfodol i’w cynnig.  Mewn amser byr iawn, mae gennyf lawer mwy o hyder i ymgymryd â thasgau bychain o amgylch fy eiddo.  Mae’r cydbwysedd rhwng gwaith ymarferol a theori yn berffaith ac yn addas ar gyfer fy null dysgu.  
Mae’r offer a ddarperir gan yr adran o ansawdd anhygoel ac ar gael yn syth.  Mae’r mortar yn barod ar ddechrau pob sesiwn, ac mae’r wers yn dechrau’n brydlon.
O ran addysgu, rrhaid canmol y Darlithydd Gwaith Brics (Mr Adam James).  Mae Adam bob amser yn gyfeillgar ac yn amyneddgar gyda’r rhai sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol (mae hynny’n cynnwys fi!!).  Mae’r adborth a ddarperir bob amser yn adeiladol, byth yn negyddol.  Mae Adam wedi mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod llif y cwrs ar safon dderbyniol i’r grŵp ehangach ac nid yw fyth yn gadael unrhyw fyfyriwr ar ôl.  Rwy’n teimlo bod profiad Adam mewn cyd-destun diwydiannol yn berffaith i leoliad hyfforddiant, sy’n ei wneud yn ddarlithydd hynod o effeithiol.
Rwy’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy’n ystyried gwneud rhywbeth newydd.  O brosiectau bach yn y cartref i waith sylfaenol Gwaith Brics, byddwn yn argymell y cwrs hwn i bawb.

Simon Phillips
Myfyriwr gosod brics lefel 1 rhan amser. 

Caiff y sesiynau eu cynnal mewn ffordd sy’n hawdd eu deall, gyda digon o gyfleoedd i ofyn am help a chyngor a llawer o anogaeth gan staff addysgu. Mae’r cyfle i gwblhau tasgau adeiladau o’r dechrau wedi rhoi digon o brofiad ymarferol i ni, sy’n amlwg wedi ein helpu i ddysgu mor gyflym.
Rwyf wedi dysgu sut i adeiladu wal frics, wal brisbloc, a wal gornel, sy’n wych.
Rwyf wedi mwynhau’r cwrs yn fawr iawn. 

Gavin Black 
Myfyriwr gosod brics lefel 1 rhan amser. 

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE