Gosod Brics a Gweithrediadau Paratoi Tir - Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig yn darparu cyflwyniad eang i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n bwriadu gweithio yn y sectorau hyn.
Mae wedi’i anelu at ddysgwyr mewn dysgu sy’n seiliedig ar waith, addysg bellach, a chweched dosbarth ysgolion. Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i fynd ymlaen i astudio amryw o gyrsiau adeiladu a sector yr amgylchedd adeiledig eraill sy’n berthnasol i’r grefft sydd o ddiddordeb iddynt.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd pob dysgwr yn cwblhau unedau craidd sy’n cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth ragarweiniol a dealltwriaeth o: cyflwyniad i’r sectorau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, cylch bywyd yr amgylchedd adeiledig, y swyddi sydd ynddo, a’r ddibyniaeth a welir rhwng pobl sy’n gwneud y swyddi hynny er mwyn hyrwyddo a chynnal iechyd a diogelwch eich hunan ac eraill; a sgiliau cyflogadwyedd sy’n berthnasol i waith yn y dyfodol. Yn ychwanegol at yr unedau ‘craidd’ hyn, bydd dysgwyr yn astudio dau lwybr crefft ac yn treulio amser yn dysgu sgiliau, gan gynnwys cynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau cyffredin.

Galwedigaethau gwaith trywel: Pwrpas yr uned hon ydy i ddysgwyr ddod i wybod sut i ddethol, storio a pharatoi deunyddiau ar gyfer gosod brics, blociau a cherrig a bydd yn datblygu sgiliau ymarferol i’w galluogi i gymysgu deunyddiau, trin a thrafod, storio a phentyrru deunyddiau yn barod i’w defnyddio. Bydd y dysgwyr yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i osod briciau, blociau a charreg ar linell ac yn datblygu sgiliau i fesur, lefelu a chymhwyso llinellau plwm i’r gwaith. 

Galwedigaethau gweithrediadau adeiladu: Pwrpas yr uned hon ydy i ddysgwyr ddod i ddeall y gofynion o ran gwybodaeth, y camau cynllunio a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer tasgau cyffredin mewn gweithrediadau adeiladu a pheirianneg sifil . Bydd yr uned hon yn galluogi’r dysgwr i ymarfer sgiliau a ddefnyddir mewn gweithrediadau adeiladu a gwasanaethau peirianneg sifil: diogelu safle, palmantu modiwlaidd (palmantau bloc, gosod slabiau), draenio a gwaith concrit.

Gofynion mynediad

Rhaid bod gan ymgeiswyr dri TGAU A* - D neu fod yn gweithio ar hyn o bryd yn y diwydiant adeiladu.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Ar ôl y cwrs hwn, gallwch chi fynd ymlaen i gyrsiau Gwaith brics ychwanegol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ