Cyfrifiadureg - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Cyfrifiadureg Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae astudio Cyfrifiadureg yn cwmpasu corff derbyniol sylweddol o wybodaeth, a diben yr arholiadau Safon Uwch ac UG mewn Cyfrifiadureg yw cydnabod hyn gyda chymhwyster parchus sy'n berthnasol i fyfyriwr sy'n bwriadu dilyn gyrfa naill ai yn y Celfyddydau neu Wyddorau, Cyfrifiadura neu Fathemateg.

Mae Cyfrifiadureg yn integreiddio’n dda gyda phynciau ar draws y cwricwlwm, ac yn galw am ddisgyblaeth resymegol a chreadigrwydd llawn dychymyg wrth ddethol a dylunio algorithmau, ac ysgrifennu, profi a chywiro rhaglenni. Mae hefyd yn:

  • yn dibynnu ar ddealltwriaeth o reolau iaith ar lefel syml
  • yn annog ymwybyddiaeth o reolaeth a threfniadaeth systemau cyfrifiadurol
  • yn ymestyn gorwelion y myfyrwyr tu hwnt i amgylchedd yr ysgol neu goleg o ran gwerthfawrogiad o effeithiau rhaglenni cyfrifiadurol ar gymdeithas ac unigolion

Am y rhesymau hyn, mae Cyfrifiadureg mor berthnasol i fyfyrwyr yn astudio pynciau Celfyddydol ag y mae i un sy’n astudio pynciau Gwyddoniaeth. Defnyddir cyfrifiaduron yn helaeth ym mhob agwedd ar lywodraeth, busnes, diwydiant, addysg, hamdden a’r cartref. Yn yr oes gynyddol dechnolegol hon, mae astudiaeth o Gyfrifiadureg ac yn benodol sut y defnyddir cyfrifiaduron i ddatrys amrywiol broblemau, nid yn unig yn werthfawr i’r myfyriwr ei hun, ond hefyd yn allweddol i lesiant y wlad yn y dyfodol.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cwrs yn trafod y ddwy uned ganlynol:

Uned 1 – Hanfodion Cyfrifiadureg

Arholiad ysgrifenedig (2 awr) 100 marc - 25% o'r cymhwyster

Mae’r uned hon yn archwilio pensaernïaeth gyfrifiadurol, cyfathrebu, cynrychiolaeth data, strwythurau data, rhaglenni meddalwedd, rhaglenni, algorithmau, rhesymeg, methodolegau rhaglennu ac effaith cyfrifiadureg ar gymdeithas.

Uned 2 – Rhaglennu ymarferol i ddatrys problemau

Arholiad ar sgrin (2 awr) 60 marc - 15% o’r cymhwyster

Mae’r uned hon yn cynnwys cyfres o dasgau a gwblheir ar sgrin gan ymgeiswyr. Bydd y tasgau hyn yn asesu cymhwysiad ymarferol gwybodaeth a dealltwriaeth ac yn gofyn am ddefnyddio Python fel iaith raglennu.

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Mathemateg: B B mewn TGAU TGCh

Addysgu ac Asesu

  • Arholiad ysgrifenedig ac arholiad ar-lein

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F31
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 mewn Cyfrifiadureg

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Michael Sung
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Cyfrifiadureg
  • Seiberddiogelwch
  • Economeg
  • TGCh
  • Mathemateg
  • Ffiseg

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE