Mae Dyfarniad ILM Lefel 3 yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac wedi'i ddylunio ar gyfer arweinwyr tîm a rheolwyr rheng flaen, neu’r rheiny sy’n dymuno cael rôl hyfforddi yn eu sefydliad. Mae dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o hyfforddi er mwyn gwella eu sgiliau a’u hyder wrth hyfforddi.
Pwrpas y cwrs hwn yw datblygu eich dealltwriaeth o wasanaethau cefnogi o fewn cyd-destun eich sefydliad eich hun er mwyn sicrhau bod safonau ansawdd a pherfformiad yn cael eu cynnal. Trwy ddeall y prosesau a'r dulliau a ddefnyddir gallwch wella eich effeithiolrwydd eich hun wrth sicrhau canlyniadau.
Diddordeb? Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
I ennill eich cymhwyster Lefel 3 ILM, bydd gofyn i chi fynychu 2x dosbarth wyneb-yn-wyneb gorfodol, 1x diwrnod tiwtorial ar-lein a hunan astudio i ysgrifennu 2x Aseiniad Uned (oddeutu 1200 gair yr un) o fewn terfynau amser a osodir.
Bydd tiwtorial yn cael ei drefnu'n uniongyrchol rhyngoch chi a'ch Tiwtor ILM unwaith mae'r cwrs wedi dechrau
Unedau a gynhwysir o fewn y cymhwyster hwn:
Unwaith rydych wedi llwyddo, byddwch yn derbyn tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol a bathodyn achrediad digidol.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £620.00
Ffi Arholiad : £105.00
Rhaid talu Ffi y Cwrs a Chofrestru wrth gofrestru.
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i chi:
Bydd pob cais, datganiad personol a thystiolaeth cymwysterau yn cael eu hasesu gan ein Tiwtoriaid Cwrs. Bydd y tîm wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich addasrwydd cyffredinol ar gyfer y lefel hon o gymhwyster ILM.
Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.