Dyfarniad Lefel 5 ILM Yr Arweinydd Effeithiol

L5 Lefel 5
Rhan Amser
23 Hydref 2024 — 19 Rhagfyr 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Dyfarniad ILM Lefel 5 yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac wedi'i ddylunio ar gyfer Rheolwyr Prosiect, Rheolwyr Canol a Phenaethiaid Adran sy'n ceisio symud i'r lefel nesaf o reolaeth. 

Bydd y cwrs rhyngweithiol hwn yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o arweinyddiaeth effeithiol o fewn cyd-destun gwaith. Byddwch yn gwerthuso eich gallu eich hun i gyflawni cyfrifoldebau allweddol o arweinyddiaeth, yn gallu ysbrydoli eraill ac arwain eraill i gyflawni codau ac amcanion sefydliadol.

Diddordeb? Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

I ennill eich cymhwyster Lefel 5 ILM, bydd gofyn i chi fynychu 5x dosbarth wyneb yn wyneb gorfodol, 1x diwrnod tiwtorial ar-lein a hunan astudio i ysgrifennu 3x Aseiniad Uned (oddeutu 2500 gair yr un) o fewn terfynau amser a osodir. 

Diwrnod 1: 23 Hydref 2025
Diwrnod 2: 24 Hydref 2025
Diwrnod 3: 19 Tachwedd:
Diwrnod 4: 20 Tachwedd 2025
Diwrnod 5: 19 Rhagfyr 2025

Bydd tiwtorial yn cael ei drefnu'n uniongyrchol rhyngoch chi a'ch Tiwtor ILM unwaith mae'r cwrs wedi dechrau

Unedau yr ymdrinnir â nhw ar y cwrs hwn: 

- Uned 522: Dod yn Rheolwr effeithiol
- Uned 519: Datblygu ac Arwain Timau i Gyflawni Nodau ac Amcanion Sefydliadol.

Unwaith rydych wedi llwyddo, byddwch yn derbyn tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol a bathodyn achrediad digidol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £725.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Rhaid talu Ffi y Cwrs a Chofrestru wrth gofrestru.
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i chi:

  • fod mewn swydd fel Goruchwyliwr, Arweinydd Tîm neu Reolwr Llinell Gyntaf (oherwydd natur adfyfyriol aseiniadau'r cymhwyster).
  • lanlwytho Datganiad Personol sy'n 100 gair o leiaf wrth wneud cais i amlinellu eich diddordeb mewn ennill y cymhwyster hwn.
  • lanlwytho tystiolaeth o'ch cymhwyster uchaf hyd yma ee TGAU neu Dystysgrif Gradd.

Bydd pob cais, datganiad personol a thystiolaeth cymwysterau yn cael eu hasesu gan ein Tiwtoriaid Cwrs. Bydd y tîm wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich addasrwydd cyffredinol ar gyfer y lefel hon o gymhwyster ILM.

Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

23 Hydref 2024

Dyddiad gorffen

19 Rhagfyr 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSILM5EFL
L5

Cymhwyster

City & Guilds Dyfarniad Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Os ydych yn cwblhau rhagor o Gymwysterau Lefel 5 ILM, gallwch gael Tystysgrif Lefel 5 ILM!

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE