Profwr MOT - Dosbarth 4 a 7

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Cynlluniwyd ein cwrs Profwr MOT mewn Cerbydau Ysgafn yn benodol ar gyfer mecanyddion sy’n dymuno bod yn brofwyr MOT ar gyfer dosbarthiadau 4 a 7. Bydd cwbkhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn galluogi mecanyddion i ymgymryd ag asesiad arsylwol terfynol y DVSA, er mwyn cyflawni Tystysgrif Cymhwysedd, a fydd yn eu galluogi i fod yn brofwr enwebedig. Wedi ei lleoli ar ein campws Canol Dinas yng Nghaerdydd, bydd y rhaglen yn cwmpasu cynnwys a gynlluniwyd i adlewyrchu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Rheolwyr MOT.

Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

  • Gweithio'n Ddiogel o fewn Canolfan Gerbydau
  • Cyfathrebu gyda Chydweithwyr a Chwsmeriaid
  • Rheoli a Chynnal eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Cynnal gwiriadau cyn prawf
  • Cynnal prawf MOT

Cynhelir asesu drwy gyfrwng profion ar-lein ac asesiadau ymarferol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £895.00

Gofynion mynediad

4 blynedd o brofiad perthnasol yn y diwydiant cerbydau modur. Trwydded yrru heb unrhyw bwyntiau yn ymwneud â sancsiynau cerbyd modur difrifol. Cymhwyster lefel 3 neu gyfwerth.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

35 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSMOT47P1
L3

Cymhwyster

IMI Level 2 Award in MOT Testing (Classes 4 and 7)

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE