Mae'r dyfarniad Lefel 4 hwn wedi'i gynllunio ar gyfer technegwyr sy'n gweithio'n rheolaidd ar systemau a chydrannau trydan. Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd ein hymgeiswyr yn gallu dangos sgiliau sy'n ofynnol i ganfod problemau ac atgyweirio systemau foltedd uchel mewn modd diogel. Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys atgyweirio systemau hybrid ar gerbydau petrol a diesel.
- Deall egwyddorion trydanol sy'n ymwneud â systemau cerbydau foltedd isel ac uchel.
- Adnabod y peryglon a'r cymorth cyntaf sy'n gysylltiedig â gweithio ar systemau cerbydau foltedd uchel byw.
- Gwybod sut i leihau'r risgiau i chi'ch hun ac eraill wrth weithio ar systemau cerbydau foltedd uchel byw.
- Deall systemau a chydrannau foltedd uchel (HV).
- Gallu gwneud atgyweiriadau ar systemau foltedd uchel yn ddiogel.
Ffi Cwrs: £390.00
Ffi Arholiad : £55.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Bydd gofyn i'r ymgeisydd feddu ar gymhwyster perthnasol ar Lefel 2 a Lefel 3. Bydd angen profiad perthnasol yn y diwydiant modurol ar yr ymgeisydd. Argymhellir 4 blynedd.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.