Ail-achrediad Uwch-dechnegydd Paneli

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Mae'r llwybr Paentio wedi'i dargedu tuag at dechnegwyr y mae eu swyddi yn cynnwys atgyweirio cerbydau sydd, yn nodweddiadol, wedi bod mewn damwain neu ddigwyddiadau cyffelyb. Dylai technegwyr fod yn gweithio yn y sector atgyweirio damweiniau'r diwydiant a meddu ar o leiaf tair blynedd o brofiad i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r sgiliau, y wybodaeth a'r technegau sydd eu hangen i atgyweirio a newid cydrannau corff, gan gynnwys dychwelyd aliniad cerbydau i fanyleb y gwneuthurwr a chywiro namau yng nghragen y corff.

Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.

Beth fyddwch yn ei astudio?

RHAID i lefelau ymgeiswyr feddu ar Dystysgrif Weldio gyfredol ar gyfer AOM – 009 (BS1140 a BS4872).

Modiwlau Asesiad Llawn:

  • Aliniad Panel Cosmetig 

  • MET - Cymhleth
  • Difrod i'r Panel (Cywiriad)
  • Panel/Adran wedi'i Weldio MAG/MIG Presyddu/Rhwymo/Rhybedu
  • Cywiro Cam-aliniad Cragen Corff (Gosod, Mesur, Addasu)
  • Panel Cosmetig Alwminiwm
  • Atgyweirio Llanwydd Oer
  • Modiwlau Ailasesu:
  • MET - AOM 006 Cymhleth
  • Panel/Adran wedi'i Weldio MAG/MIG Presyddu/Rhwymo/Rhybedu AOM 030

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £45.15

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £710.85

Gofynion mynediad

Mae hwn yn ail-achrediad i fyfyrwyr sydd wedi cyflawni'r Cymhwyster Panel Uwch llawn yn flaenorol.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

12 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MVCC4P14
L3

Cymhwyster

ATA Senior Panel Re-accreditation

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE