Archwilio Cerbydau Ysgafn ATA

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r llwybr Arolygu Cerbydau Ysgafn wedi'i dargedu at dechnegwyr sydd fel rhan o'u swydd yn ymglymedig ag arolygu, cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn, nad oes ganddynt gymhwyster Lefel ac sydd eisiau cael eu cydnabod fel technegydd cerbyd modurol cymwys.

Mae un lefel mewn Arolygu Cerbydau Ysgafn:

  • Technegydd Arolygu

Mae'r achrediad hwn hefyd yn llwybr i'r Wobr IMI Lefel 2 yn y Cwrs Profi MOT.

Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae rhaid i dechnegwyr sy'n ymgymryd â'r llwybr hwn fedru gweithio heb oruchwyliaeth, yn ddelfrydol mewn cyflogaeth llawn amser gydag o leiaf tair blynedd o brofiad er mwyn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r technegau ar gyfer gwasanaethu, arolygu ac adnabod problemau gyda systemau cerbydau.

Mae'r lefel hon yn gofyn bod yr ymgeisydd yn cwblhau'r modiwlau canlynol, byddant yn cael hyfforddiant cyn yr asesiadau:

  • Systemau trydanol a sut maent yn gweithio
  • Defnyddio a darllen data allyriadau
  • Y defnydd o offer diagnostig seiliedig ar gyfrifiadur
  • Gwahanol systemau hongiad a llywio gan gynnwys gwahanol osodiadau
  • Sut mae'r system frecio'n gweithio gan gynnwys cyfrifiadau effeithlonrwydd brêc
  • Strwythur cerbydau
  • Archwilio cerbydau

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £605.00

Gofynion mynediad

Rhaid i chi allu gweithio heb oruchwyliaeth mewn cyflogaeth lawn amser yn y sector. Dylech fod ag o leiaf tair blynedd o brofiad yn y sector a bod yn gyfarwydd â'r technegau ar gyfer gwasanaethu ac arolygu cerbydau a'u systemau.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

12 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MVCC4P07
L3

Cymhwyster

IMIA-ATA-LVIN-3-12 ATA Inspection Level 3

Mwy

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE