Hanfodion Excel: Meithrin Sgiliau, Gwella Hyder
Barod i ddatgloi pŵer Excel? Y cwrs hwn sy’n addas i ddechreuwyr yw’r man cychwyn perffaith ar gyfer unrhyw un sy’n newydd i daenlenni. Mae’r cwrs yn ymdrin â phynciau fel sut i fewnbynnu, trefnu a rheoli data, creu cyfrifiadau a fformiwlâu, a defnyddio gweithrediadau hanfodol Excel yn hyderus. Trwy weithgareddau ymarferol, byddwch yn datblygu sgiliau gwerthfawr y gellir eu defnyddio yn y gweithle ar unwaith. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych yr hyder i weithio’n annibynnol ar Excel a sylfaen gadarn i symud ymlaen i’n cwrs Excel Canolradd.
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am - 4pm. Os nad oes gennych liniadur, bydd un ar gael i chi ei ddefnyddio ar y diwrnod.
Mewnbynnu a Threfnu Data
Rheoli Data
Cyfrifiadau a Fformiwlâu Sylfaenol Excel
Gweithrediadau Sylfaenol
Gweithgareddau ymarferol
Gweithgareddau pellach sy’n seiliedig ar senarios, i roi pynciau a drafodwyd yn flaenorol ar waith.
Ffi Cwrs: £150.00
Rydych chi’n gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych chi’n bodloni’r canlynol:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Yn ddelfrydol, mae’r cwrs yn arwain ymlaen i’r cwrs Excel Canolradd, sy’n ehangu ac yn adeiladu ar y wybodaeth a drafodwyd.