Bydd y cwrs hwn yn darparu gwybodaeth, neu’n gwella gwybodaeth ynghylch ysgythru ar gyfer gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion.
Bydd yn canolbwyntio ar ddeall y theori o sut mae ysgythru yn gweithio, a darparu cyfranogwyr y cwrs â gwybodaeth eang am ysgythru yn y broses gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion.
Datblygwyd y cwrs hwn gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad gyda phartneriaid yn y diwydiant o'r clwstwr CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, wedi ei leoli yn Ne Cymru a'r ardal gyfagos yn y Deyrnas Unedig.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb yn CSA Casnewydd.
Erbyn diwedd y cwrs 2 ddiwrnod hwn, bydd dysgwyr yn gallu:
Mae hwn yn gwrs 2 ddiwrnod wyneb yn wyneb, a fydd yn cael ei gyflwyno drwy gyfres o gyflwyniadau, trafodaethau a gweithgareddau ymgysylltiol. Bydd y rhai sy’n cwblhau’r hyfforddiant yn derbyn Tystysgrif CPD.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18+ oed ac yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Ni all ymgeiswyr fod mewn addysg llawn amser.
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer:
Mae hwn yn gwrs 2 ddiwrnod wyneb yn wyneb, a fydd yn cael ei gyflwyno drwy gyfres o gyflwyniadau, trafodaethau a gweithgareddau ymgysylltiol. Bydd y rhai sy’n cwblhau’r hyfforddiant yn derbyn Tystysgrif CPD.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.