Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Disgrifiwch y cwrs os gwelwch yn dda, gan gynnwys ar gyfer pwy mae’r cwrs, sut fydd y cwrs o fudd i’r dysgwr a’r hyn sy’n ei wneud yn unigryw (USPs). Darperir y cwrs hwn gan Brifysgol Caerdydd. Bydd y cwrs e-ddysgu hwn yn darparu (neu'n gwella) eich gwybodaeth am dechnoleg ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a'i chymwyseddau.

Mae hwn yn gwrs lefel gyflwyniadol a allai fod yn addas ar gyfer pobl o ystod eang o gefndiroedd.

Mae'r elfen wyddonol wedi ei osod ar lefel debyg i safon Lefel-A, felly er mwyn cael y profiad gorau o'r cwrs rydym yn eich cynghori y dylai cyfranogwr fod â rhyw gymaint o wybodaeth gefndirol a dealltwriaeth sylfaenol o ffiseg / gwyddoniaeth neu beirianneg.

Mae'r cwrs hwn wedi ei ddatblygu gan y Brifysgol mewn cydweithrediad gyda phartneriaid yn y diwydiant o'r clwstwrCSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf o’i fath yn y byd wedi ei leoli yn ne Cymru a'r ardal gyfagos yn y Deyrnas Unedig.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Gallwch hefyd gynnwys dulliau addysgu ac asesu, os dymunwch. Mae Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ddeunydd hanfodol ar gyfer technolegau modern a newydd megis 5G, ceir heb yrrwr, y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a Deallusrwydd Artiffisial (AI). Mae ganddynt hefyd ran allweddol i'w chwarae trwy helpu i fynd i'r afael â rhai o heriau'r byd modern, gan gynnwys cynaliadwyedd a'r agenda sero net.

Mae'n bosib eich bod yn fwy cyfarwydd gyda Silicon, sydd wedi bod yn asgwrn cefn y chwyldro electroneg o'r 1960au. Fel elfen unigol o'r tabl cyfnodol, mae gan Silicon set gyfyngedig o nodweddion.

Mae gan led-ddargludyddion cyfansawdd nodweddion sy'n rhagori ar rai Silicon, gan alluogi technolegau newydd ac arloesol a dyfeisiadau megis:

  • Pŵer (electroneg pŵer ar gyfer cerbydau trydan)
  • Cyflymder (amledd radio ar gyfer 5G a RADAR)
  • Golau (ffotoneg ar gyfer cyfathrebiadau ffibr optig)

Erbyn diwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr y cwrs yn gallu:

  • egluro beth yw ffotoneg ac ym mhle y mae i'w ganfod mewn bywyd o ddydd i ddydd
  • disgrifio, yn syml, beth yw lled-ddargludyddion, gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng lled-ddargludyddion elfennol (silicon) a chyfansawdd
  • disgrifio, mewn ffordd syml, sut mae cylchedau ffonig integredig yn cael eu creu
  • disgrifio, ar lefel sylfaenol y technegau gwneuthuriad 'nano' a 'micro' yn cael eu defnyddio i greu dyfeisiadau ffotoneg
  • deall, mewn ffordd syml, cymwysiadau lled-ddargludyddion a pha led-ddargludyddion sy'n briodol
  • gwerthfawrogi'r cymwysiadau presennol ar gyfer y farchnad, a rhai'r dyfodol, ar gyfer sglodion ffotoneg
  • egluro sut mae electroneg sglodion ffotoneg cyfansawdd yn cyfrannu at y gymdeithas, at ddatblygu technolegau newydd, a helpu i fynd i'r afael â heriau'r byd modern

Addysgu ac asesu

Dyma gwrs ar-lein y gallwch ymgymryd ag o yn eich amser eich hun. Bydd yr hyfforddiant yn cymryd oddeutu 3.5 awr i'w gwblhau.
Bydd yn cael ei gyflwyno trwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein a rhyngweithiol megis fideos byrion ac ymarferion profi-eich-gwybodaeth.
Bydd gennych fynediad am 2 fis o'r dyddiad y byddwch yn cyrchu'r deunyddiau dysgu am y tro cyntaf.

Does dim elfen fyw ond mae yna fwrdd trafod lle gall cyfranogwyr gyflwyno cwestiynau i'r tiwtor ac eraill ar y cwrs. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy lwyfan dysgu rhithiol y Brifysgol, Learning Central. Bydd eich manylion mewngofnodi unigol yn cael eu hebostio atoch ychydig ddyddiau cyn i'ch mynediad i'r cwrs ddechrau. 

Bydd Tystysgrif Cwblhau CPD yn cael ei gyflwyno i ddysgwyr sy'n cyflawni 70% neu fwy ar ddiwedd prawf cwrs. Mae hwn yn brawf aml-ddewis.

Gofynion mynediad

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer unrhyw rai o blith y canlynol: Y rhai sy’n gweithio yn y sector lled-ddargludyddion ac sy’n dymuno gwella’u gwybodaeth am electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd. Y rhai sy’n dymuno ailhyfforddi ar gyfer y sector lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd. Y rhai sy’n cefnogi’r sector – er enghraifft, cyflenwyr y sector. Gweithwyr proffesiynol ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfaoedd sy’n dymuno gwella neu newid eu gyrfaoedd. Graddedigion diweddar sy’n dymuno meddu ar y sgiliau perthnasol ar gyfer ymuno â’r sector. Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn 18+ oed a rhaid iddynt fyw neu weithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

0.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GPEXCSPP01
L3

Cymhwyster

Introduction to Compound Semiconductor Photonics

Logos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Mae'r cwrs hwn yn rhan o gyfres o gyrsiau hyfforddi sy'n tyfu a gynlluniwyd i gefnogi'r sector lled-ddargludyddion cyfansawdd ar hyd a lled de Cymru. Mae’n bosib y byddai gennych chi ddiddordeb yn chwaer gwrs, sef ‘Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd’, a hyfforddiant mewn ‘Protocolau Ystafell Lân’.