Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Darperir y cwrs hwn gan Brifysgol Caerdydd.

Bydd y cwrs cymysg hwn yn darparu/gwella dealltwriaeth am dechnoleg electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r defnydd a wneir ohoni.
Mae hwn yn gwrs lefel gyflwyniadol a allai fod yn addas ar gyfer pobl o ystod eang o gefndiroedd.

Mae'r elfen wyddonol wedi ei gosod ar lefel debyg i safon Lefel-A, felly er mwyn cael y profiad gorau o'r cwrs rydym yn cynghori bod angen rhyw gymaint o wybodaeth gefndirol a dealltwriaeth sylfaenol o ffiseg / gwyddoniaeth neu beirianneg. Er enghraifft, byddai'n ddefnyddiol i fod â gwybodaeth sylfaenol am atomau ac electronau.

Mae gan y cwrs hwn ddwy ran:

  • Rhan 1 - oddeutu 3.5 awr o ddeunyddiau e-ddysgu y gallwch chi eu cwblhau yn eich amser eich hun, wedi'i ddilyn gan
  • Rhan 2 - sesiwn ymarferol 2.5 awr mewn person lle byddwch yn gallu gweld technoleg lled-ddargludyddion ar waith

Rhan 2 (y sesiwn mewn person) - bydd yn cael ei gynnal yn adeilad newydd SPARK building Prifysgol Caerdydd. Mae'r sesiwn mewn person hwn yn adeiladu ar Rhan 1 (y deunydd e-ddysgu) felly mae'n bwysig iawn eich bod yn cwblhau'r cynnwys ar-lein cyn eich sesiwn mewn person sydd wedi'i drefnu.

Dyddiadau Rhan 2:

  • Dydd Mercher 25ain Medi (10:30 – 13:00)
  • Dydd Mercher 13eg Tachwedd (13:30 – 16:00)

Datblygwyd y cwrs hwn gan y Brifysgol mewn cydweithrediad gyda phartneriaid yn y diwydiant o'r clwstwrCSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd wedi ei leoli yn ne Cymru a'r ardal gyfagos yn y Deyrnas Unedig.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ddeunyddiau angenrheidiol ar gyfer technolegau modern a newydd megis 5G, ceir heb yrrwr, y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a Deallusrwydd Artiffisial (AI). Mae ganddynt hefyd ran allweddol i'w chwarae trwy helpu i fynd i'r afael â rhai o heriau'r byd modern, gan gynnwys cynaliadwyedd a'r agenda sero net.

Mae'n bosib eich bod yn fwy cyfarwydd gyda Silicon, sydd wedi bod yn asgwrn cefn y chwyldro electroneg o'r 1960au. Fel elfen unigol o'r tabl cyfnodol, mae gan Silicon set gyfyngedig o nodweddion. Mae gan led-ddargludyddion cyfansawdd nodweddion sy'n rhagori ar rai Silicon, gan alluogi technolegau newydd ac arloesol a dyfeisiadau megis:

  • pŵer (electroneg pŵer ar gyfer cerbydau trydan)
  • cyflymder (amledd radio ar gyfer 5G a RADAR)
  • golau (ffotoneg ar gyfer cyfathrebiadau ffibr optig)

RHAN 1 (deunyddiau e-ddysgu)

Erbyn diwedd Rhan 1 y cwrs byddwch yn gallu:

  • egluro electroneg lled-ddargludyddion - beth ydyw ac ym mhle y mae i'w ganfod mewn bywyd o ddydd i ddydd
  • disgrifio, yn syml, beth yw deunyddiau lled-ddargludyddion, gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng deunyddiau lled-ddargludyddion elfennol (silicon) a chyfansawdd
  • disgrifio, ar lefel sylfaenol, sut mae cylchedau electroneg lled-ddargludyddion yn cael eu creu
  • deall, mewn ffordd syml, cymwysiadau lled-ddargludyddion a pha led-ddargludyddion allai fod yn briodol, yn dibynnu ystyriaethau perfformiad a chost
  • gwerthfawrogi'r cymwysiadau presennol ar gyfer y farchnad, a rhai'r dyfodol, ar gyfer electroneg lled-ddargludyddion
  • egluro sut mae electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cyfrannu at y gymdeithas, at ddatblygu technolegau newydd, a helpu i fynd i'r afael â heriau'r byd modern

RHAN 2 (sesiwn mewn person)

Erbyn diwedd Rhan 2 y cwrs, byddwch wedi cael y cyfle i gyfranogi yn y gweithgareddau canlynol (gyda chefnogaeth a ddarperir gan y tiwtor a'r hwylusydd):

Gweithgareddau ar ddeuodau - byddwch yn gwneud unionwr ac yn archwilio nodweddion DC-IV deuodau er mwyn deall gweithrediad syml deuodau

  • dysgu ffurfiau nodweddion DC-IV deuodau
  • dysgu sut mae trawsnewidiad o AC i DC yn gweithio (yn ei ffurf fwyaf syml)

Gweithgaredd ar wneuthuriad micro - gan ganolbwyntio ar y cysyniad o ddefnyddio graddfa, byddwch yn defnyddio eitemau megis microsgop, darn 10c, a waffer silicon i:

  • ddeall graddfa anhygoel transistorau modern
  • deall sut mae picsel ar ffonau yn cynhyrchu lliw drwy ficropicselau
  • mae yna hefyd ail ran i'r gweithgaredd hwn sy'n edrych ar feicro-wneuthuriad dyfeisiadau aml-haen drwy ddefnyddio tryloywluniau

Gweithgaredd ar dransistorau - byddwch yn archwilio nodweddion DC-IV Transistor Cyswllt Deuben (BJT) a Thransistor Cyswllt Effaith Maes (JFET) a phenderfynu mwyafswm cerrynt y BJT a'r JFET ar fias a roddir, er mwyn:

  • deall gweithrediad sylfaenol y ddau dransistor
  • dysgu ffurfiau nodweddion DC-IV y ddau dransistor
  • ystyried cymwyseddau y ddau dransistor

Gweithgaredd ar ddadleniad golau a chelloedd solar - byddwch yn defnyddio LEDau, ffotodeuodau a chelloedd solar i:

  • deall gweithrediad sylfaenol LED, ffotodeuodau, a chelloedd solar
  • deall sut mae gwahanol ddyfeisiadau / deunyddiau yn gallu cynhyrchu / adnabod gwahanol donfeddi o olau
  • deall effaith y sbectrwm solar ar weithrediad cell solar

Addysgu ac asesu

RHAN 1 (deunyddiau e-ddysgu)

Unwaith bydd eich archeb wedi'i phrosesu, byddwch yn cael mynediad at y deunyddiau e-ddysgu. Bydd angen i chi gwblhau'r deunyddiau e-ddysgu cyn eich sesiwn mewn-person (h.y. Rhan 2 o'r cwrs). Gellir gwneud y cynnwys e-ddysgu yn eich amser eich hun, a bydd yn cymryd tua. 3.5 awr i'w gwblhau.

Bydd y cynnwys e-ddysgu yn cael ei gyflwyno trwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein a rhyngweithiol megis fideos byrion ac ymarferion profi-eich-gwybodaeth.
Bydd gennych fynediad i'r deunyddiau e-ddysgu hyd at fis ar ôl eich sesiwn mewn-person.

Does dim elfen fyw i Ran 1 ond mae yna fwrdd trafod lle gallwch gyflwyno cwestiynau i'r tiwtor ac eraill ar y cwrs. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy lwyfan dysgu rhithiol y Brifysgol, Learning Central. Bydd eich manylion mewngofnodi unigol yn cael eu he-bostio atoch cyn gynted ag y bydd eich archeb wedi'i phrosesu.

Bydd Tystysgrif Cwblhau CPD yn cael ei gyflwyno i ddysgwyr sy'n cyflawni 70% neu fwy yn y prawf ar ddiwedd y cwrs. Mae hwn yn brawf aml-ddewis.

RHAN 2 (sesiwn mewn person)

Bydd y sesiwn ymarferol hwn yn darparu cyfle gwerthfawr ar gyfer:

  • profiad dysgu lle byddwch yn gallu gweld technoleg lled-ddargludyddion ar waith
  • gofyn cwestiynau i arbenigwr, a chwrdd â gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio yn y sector
  • rhoi amser i greu cysylltiadau rhwng y deunydd e-ddysgu a chymwyseddau ymarferol, bywyd go iawn
  • cael gwybodaeth y gallwch ei rhoi ar waith yn syth yn eich gweithle
  • amgylchedd cefnogol lle byddwch yn gweithio mewn grwpiau bychain ar garwsél o weithgareddau, yn cael ei hwyluso gan arweinydd y sesiwn a'r hwylusydd (yn ôl y gofyn)

Gofynion mynediad

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer unrhyw rai o blith y canlynol: Y rhai sy’n gweithio yn y sector lled-ddargludyddion ac sy’n dymuno gwella’u gwybodaeth am electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd. Y rhai sy’n dymuno ailhyfforddi ar gyfer y sector lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd. Y rhai sy’n cefnogi’r sector – er enghraifft, cyflenwyr y sector. Gweithwyr proffesiynol ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfaoedd sy’n dymuno gwella neu newid eu gyrfaoedd. Graddedigion diweddar sy’n dymuno meddu ar y sgiliau perthnasol ar gyfer ymuno â’r sector. Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn 18+ oed a rhaid iddynt fyw neu weithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

1 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GPEXCSEP01
L3

Cymhwyster

Introduction to Compound Semiconductor Electronics

Logos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Mae'r cwrs hwn yn rhan o gyfres sy'n tyfu o gyrsiau hyfforddiant sydd wedi'u cynllunio i gefnogi'r sector lled-ddargludyddion cyfansawdd ar hyd a lled de Cymru. Mae'n bosib y byddai gennych chi ddiddordeb yn y 'chwaer' gwrs, sy'n dwyn yr enw 'Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd', a hyfforddiant mewn 'Protocolau Ystafell Lân'.