Os oes gennych chi beth profiad eisoes o ddadansoddi neu raglennu, bydd y Bŵtcamp Sgiliau Uwch hwn a ddarperir gan Iungo Solutions yn eich galluogi i ddylunio a gweithredu strwythurau data, pensaernïaeth a phiblinellau i awtomeiddio prosesau busnes a gwneud y gorau o lifau gwaith. Dros 16 wythnos,( 1 diwrnod yr wythnos) byddwch yn edrych yn fanwl ar ddylunio pensaernïaeth data, adeiladu cronfeydd data soffistigedig a phiblinellau data.
wedi’u hawtomeiddio, a gweithrediadau data (DataOps) o fewn pensaernïaeth boblogaidd Microsoft Azure yn y cwmwl. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer o’r safon a ddefnyddir yn y diwydiant gan gynnwys Microsoft Azure a Microsoft Power BI. Byddwch yn adeiladu ar eich sgiliau rhaglennu yn rhai o’r ieithoedd rhaglennu mwyaf hyblyg gan gynnwys Python SQL, a DAX. Wedi'i ariannu'n llawn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chyllid gan Lywodraeth y DU, bydd eich cais yn cael ei wneud drwy Iungo Solutions.
Bydd ymgeiswyr yn cael eu hailgyfeirio i wefan Iungo er mwyn gwneud eu cais.
Drwy gydol y Bŵtcamp Sgiliau byddwch yn datblygu portffolio i’ch helpu chi i baratoi ar gyfer cynydd neu newid gyrfa mewn Peirianneg Data, gan gynnwys ymgymryd â phrosiect copa Dadansoddi Data Gwyrdd, er mwyn arddangos eich Sgiliau Peirianneg Data, Dadansoddi Data a Delweddu. Byddwch yn cwblhau Tystysgrif Lefel 5 mewn Peirianneg Data a chael cyfle i sefyll arholiad Microsoft PL-300 er mwyn dod yn Ddadansoddwr Power BI wedi’i Ardystio Gan Microsoft.
Mae’r dysgu yn digwydd drwy 1 diwrnod yr wythnos o ddosbarth ar gael wyneb yn wyneb neu’n hybrid ar-lein. Asesiad os yw drwy bortffolio ac arholiad Microsoft ar-lein. Cymwysterau:
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau rhaglenni sylfaenol i ganolraddol mewn unrhyw iaith boblogaidd megis Python, Java, JavaScript, Ruby, R, SWL, C, C++ neu C#. Dylech hefyd fod â pheth profiad o ddefnyddio iaith ymholiadau cronfeydd data megis SQL, noSQL, MongoDB, neu GQL. Mae’n bosib eich bod wedi gweithio o fewn rôl dadansoddwr data, datblygwr meddalwedd, neu rôl dadansoddwr busnes neu fod wedi ymgymryd â phrosiectau amser hamdden sylweddol yn ymwneud â dadansoddi data neu ddatblygu meddalwedd. Neu, mae’n bosib bod gennych radd mewn pwnc rhifol, megis Mathemateg, Ffiseg, Ystadegau, Cyfrifo a Chyllid, neu Ddadansoddi Data. Pa bynnag lwybr rydych wedi’i gymryd, dylai fod gennych angerdd eglur dros roi datrysiadau sy’n cael eu gyrru gan ddata ar waith er mwyn datrys problemau a
Idealltwriaeth o bwysigrwydd data ar gyfer busnes. Byddwch angen dyfais gliniadur sy’n cwrdd â’r fanyleb ganlynol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.