Mae’r rhaglen Cybersecurity in Business Bootcamp wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i symud yn nes at yrfa yn y sector Seiberddiogelwch.
Wedi’i ddatblygu gan yr Hyb Arloesedd Seiber, byddwch yn elwa o ymagwedd ymarferol wrth i chi gwblhau modiwlau yn y ddau theori y tu ôl i Seiber Dechnoleg a sut mae hyn yn cael ei weithredu yn y gweithle. Ochr yn ochr â hyn, bydd dysgwyr yn elwa o weithdai mewn cyflogadwyedd, sgiliau cyfweld ac astudiaethau achos ymarferol i helpu i wneud cais llwyddiannus am gyfleoedd cyflogaeth a dyrchafiad yn y maes.
Amserlen Cyflwyno:
Mae hwn yn gwrs rhan-amser a chaiff ei gyflwyno ar-lein bob nos Fawrth a nos Iau (6:00pm – 9:00pm) ac yna bob yn ail ddydd Sadwrn (9:00am – 12:00pm) yn Thales, Ebbw Vale. Bydd y Bŵtcamp hwn yn rhedeg dros 7 wythnos. Gellir gweld rhestr lawn o ddyddiadau yma
Rhennir y Bŵtcamp hwn yn ddau fodiwl fel a ganlyn:
Modiwl Un: Hanfodion Seiber / Diogelu drwy Ddylunio
Modiwl Dau: Offer ac Ymarferion Seiber / Methodolegau Ymosod
Law yn llaw â hyn, bydd cyfranogwyr yn elwa o weithdai cyflogadwyedd wedi’u teilwra. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau cyfweld, rhwydweithio, paratoi CV a phroffilio swydd ddisgrifiad.
Yn ogystal â hyn, byddwch yn cael mynediad at siaradwyr gwadd o’r diwydiant, yn ogystal â sesiynau mentora un i un.
Hyfforddiant wyneb yn wyneb yn y dosbarth. Nid oes asesiad ffurfiol nag arholiad.
Ochry n ochr â hyn, bydd cyfranogwyr yn elwa o weithdai cyflogadwyedd wedi’u teilwra. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau cyfweld, rhwydweithio, paratoi CV a phroffilio disgrifiadau swydd. Yn ogystal â hyn, bydd gennych fynediad i siaradwyr gwadd o’r diwydiant yn ogystal â sesiynau mentora un-i-un.
Ar ôl cwblhau’r Bŵtcamp hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael eu cofrestru gyda’r Cyngor Seiberddiogelwch ac yn derbyn tystysgrif cwblhau gan y Hyb Arloesedd Seiber.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Wedi i chi gwblhau’r Bŵtcamp hwn, mi fyddwch yn gymwys ar Lefel Sylfaenol CIH mewn Seiberddiogelwch, gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i geisio am swyddi neu ddyrchafiad yn y sector.