Paratoi ar gyfer Gweithio mewn Ysgolion

L1 Lefel 1
Rhan Amser
8 Medi 2026 — 11 Mai 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs yma wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd ysgol neu goleg. Dylai’r dysgwyr fod â diddordeb mewn cefnogi athrawon a disgyblion mewn amgylchedd dysgu.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys cefnogi dysgwyr gyda sgiliau Saesneg a Mathemateg, rheoli ymddygiad a chefnogi dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £66.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £469.00

Gofynion mynediad

Gradd C mewn TGAU Saesneg yn ddelfrydol, gellir darparu sgriniwr i gymryd lle hyn.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Medi 2026

Dyddiad gorffen

11 Mai 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

TLCC1P10
L1

Cymhwyster

Preparing to Work in Schools

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

103,500

Ar hyn o bryd, mae bron i 103,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a disgwylir i’r niferoedd cyflogaeth gyrraedd 105,000 erbyn 2027 (Lightcast 2022).

Ar ôl cwblhau'r cwrs yma, gall y dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth neu symud i'r cymhwyster Lefel 2 naill ai'n llawn amser neu'n rhan amser.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE