Mynediad i Addysgu’r Blynyddoedd Cynnar

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 6 Mehefin 2025
Campws y Barri

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r ddiploma yn galluogi dysgwyr i gyflawni astudiaethau sy’n gysylltiedig ag addysgu mewn addysg gynradd. Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau a fydd yn galluogi dilyniant i amryw o gyrsiau ar lefel gradd sy’n canolbwyntio ar addysg ac addysgu a dysgu yn ogystal â datblygiad plant. Mae’r ddiploma hefyd yn cymryd golwg ehangach, gan roi sylw i faterion megis diogelu, cymdeithaseg, y defnydd o dechnoleg yn y dosbarth sy’n sylfeini i’r rhan fwyaf o gyrsiau gradd mewn addysg ac astudiaethau plentyndod.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd dysgwyr yn cwblhau unedau gorfodol a fydd yn cynnwys trosolwg o  dechnegau dysgu a datblygu, datblygu adnoddau, rheoli’r ystafell ddosbarth a datblygiad plant ond wedyn byddan nhw’n gallu ymchwilio’n ddyfnach i faes sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Byddant yn astudio amryw o unedau dewisol sy’n cynnwys ymchwilio i rôl cymdeithas a deall effaith cymdeithas amlddiwylliannol yn ogystal â materion addysgol ehangach gan gynnwys anghenion addysgol arbennig . Mae gan y ddiploma amryw o unedau dewisol hefyd sy’n cefnogi gwybodaeth yn yr astudiaethau cwricwlaidd ehangach y byddai eu hangen ar athro cynradd e.e. gwyddoniaeth, hanes, e-ddysgu, llythrennedd ac iaith.

Gofynion mynediad

3+ o flynyddoedd allan o Addysg orfodol TGAU gradd C neu gyfatebol mewn Iaith Saesneg a Mathemateg. Mae angen gwiriad DBS os oes angen trefnu lleoliad gwaith. Noder: Gofynnir i ddarpar ddysgwyr y mae Saesneg yn ail iaith iddynt feddu ar Gymhwyster ESOL lefel 1 Noder: Gofynnir i ddarpar ddysgwyr y mae Saesneg yn ail iaith iddynt ddangos Sgôr IELTS gyffredinol o 6 (System Ryngwladol Profi’r Saesneg) mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig yn ystod y broses ymgeisio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

6 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

16 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ACCR3F08
L3

Cymhwyster

Access to Early Years Teaching

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

103,500

Ar hyn o bryd, mae bron i 103,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a disgwylir i’r niferoedd cyflogaeth gyrraedd 105,000 erbyn 2027 (Lightcast 2022).

Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn gallu mynd ymlaen i nifer o gyrsiau Addysg Uwch, gan gynnwys Addysg Gynradd gyda SAC, Addysg a chyrsiau astudiaethau’r blynyddoedd cynnar ac astudiaethau plentyndod.

Yn ogystal, byddai’r dilyniant yn gallu bod i brentisiaeth lefel uwch neu radd-brentisiaeth gan gynnwys:

Ymarferydd Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar (gradd)
Uwch-ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar
• Athro

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ