Bŵtcamp Peirianneg Darlledu a Gweithrediadau Technegol

L3 Lefel 3
Rhan Amser
7 Ebrill 2026 — 16 Ebrill 2026
Lleoliad Cymunedol

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Bŵtcamp Peirianneg Darlledu a Gweithrediadau Technegol ynrhaglen hyfforddiant dwys sy’n cael ei harwain gan y diwydiant gyda’r bwriad o ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol technegol ar gyfer y sector darlledu sy’n tyfu yng Nghymru. Dros chwe diwrnod trochol, bydd cyfranogwyr yn archwilio’r systemau, y seilwaith a’r technolegau sy’n pweru darlledu byw, modern.

Drwy weithdai ymarferol, arddangosiadau a mynediad at amgylcheddau darlledu go iawn, bydd dysgwyr yn ennill yr hyder technegol a’r profiad ymarferol sydd ei angen er mwyn symud ymlaen i rolau arbenigol o fewn y diwydiannau darlledu, y cyfryngau a chynhyrchu byw.

Mae’r bŵtcamp hwn yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda phrif ddarlledwyr, peirianwyr a thimau technegol ar draws tirwedd greadigol a digidol Cymru.

Bydd y bŵt- camp yn rhedeg o 7fed - 9fed Ebrill 2026 a 14eg - 16eg Ebrill 2026. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cyfranogwyr Delfrydol

Mae’r bŵtcamp hwn wedi’i fwriadu ar gyfer unigolion sydd â gallu technegol yn barod neu brofiad gyrfa gynnar sydd eisiau gwella eu harbenigedd mewn systemau darlledu, peirianneg a gweithrediadau cynhyrchu byw. Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer:

Rolau technegol gyrfa gynnar

  • Technegwyr darlledu neu beirianwyr iau
  • Gweithredwyr camerâu sydd â diddordeb mewn peirianneg
  • Cynorthwywyr sain neu dechnegwyr sain newydd

Graddedigion a dysgwyr sydd â meddwl technegol

  • Graddedigion y cyfryngau, ffilm, technoleg neu gyfrifiadura
  • Dysgwyr gyda phrofiad mewn digwyddiadau byw, AV neu theatr dechnegol
  • Unigolion sy’n gyfforddus gyda chysyniadau TG, rhwydweithiau neu galedwedd

Talent traws sector sy’n newid i’r byd darlledu

  • Technegwyr TG
  • Technegwyr AV neu ddigwyddiadau
  • Cynorthwywyr rhwydwaith neu systemau

Y lleiafswm posib o ofynion o ran parodrwydd

Dylai fod gan gyfranogwyr beth profiad technegol blaenorol (ffurfiol neu anffurfiol), megis:

  • Defnyddio offer technegol
  • Gwybodaeth sylfaenol am gynhyrchu neu systemau TG
  • Diddordeb neu gefndir mewn peirianneg neu ddatrys problemau

Nid cwrs creadigol lefel mynediad yw hwn. Mae’n fwyaf addas ar gyfer pobl sy’n barod i ddysgu llifau gwaith cymhleth mewn darlledu IP, integreiddiad systemau byw a gweithrediadau peirianneg.

Mae’r Bŵtcamp Peirianneg Darlledu a Gweithrediadau Technegol yn gyfle unigryw i gamu i mewn i sylfeini technegol darlledu modern. P’un a ydych chi’n anelu i fod yn beiriannydd darlledu, goruchwyliwr gweledol, gweithredwr systemau, technegydd AR neu gyfarwyddwr technegol. Mae’r rhaglen hon yn cynnig y profiad ymarferol, amlygrwydd yn y diwydiant a’r arweiniad proffesiynol er mwyn eich helpu i gymryd y cam nesaf.

Gyda heriau peirianneg ymarferol, mynediad at dechnoleg o’r radd flaenaf a chysylltiad uniongyrchol at gyflogwyr ar hyd a lled Cymru, mae’r bŵtcamp hwn yn eich paratoi chi ar gyfer rolau technegol go iawn yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y wlad.

Os ydych am ehangu eich sgiliau technegol, archwilio llwybrau peirianneg a gweithio y tu ôl i’r llen ar y darllediadau mae pobl yn dibynnu arnynt bob diwrnod, mae’r rhaglen hon wedi’i llunio ar eich cyfer chi.

Gofynion mynediad

Cwestiynau Sgrinio


Mae’r cwestiynau hyn yn helpu i adnabod cyfranogwyr gyda’r diddordeb a’r sylfaen dechnegol cywir.

1. Beth sydd o ddiddordeb i chi fwyaf ynghylch peirianneg darlledu neu weithrediadau technegol?

2. Oes gennych chi unrhyw brofiad blaenorol gydag offer technegol, systemau TG, neu amgylcheddau cynhyrchu? (Mae unrhyw lefel yn dderbyniol.)

3. Ydych chi’n gallu mynychu pob un o’r chwe diwrnod hyfforddi yn llawn?

4. Oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd, dysgu neu gefnogi y dylem fod yn ymwybodol ohonynt?

5. Beth ydych chi’n gobeithio ei ennill o gwblhau’r bŵtcamp hwn?

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

7 Ebrill 2026

Dyddiad gorffen

16 Ebrill 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

21 awr yr wythnos

Lleoliad

Lleoliad Cymunedol
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GPEXCBETOB01
L3

Cymhwyster

Broadcast Engineering & Technical Operations Bootcamp

Mwy...

Fideos