Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y maes lletygarwch ac arlwyo. Bydd y cwrs hwn yn rhoi profiad go iawn ichi o weithio mewn bwyty a hynny mewn ardaloedd blaen tŷ a chegin. Byddwch yn datblygu sgiliau coginio lefel un a lefel dau drwy gydol y flwyddyn a hynny wrth ennill profiad mewn gweithle byw.
Fel rhan o’r cwrs llawn amser hwn byddwch yn datblygu amrywiaeth eang o sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid a hefyd yn datblygu eich sgiliau hanfodol mewn cymhwyso rhifau a chyfathrebu. Os ydych chi wedi ennill gradd D mewn Saesneg neu Fathemateg TGAU yna bydd cyfleoedd ailsefyll ar gael ichi yn ogystal â’ch cwrs. Mae gwisg yn hanfodol ac mae’n costio tua £220.
Byddwch yn astudio pob elfen o waith cegin a bwyty.
Yn datblygu sgiliau mewn gofal cwsmer,
Gwasanaeth derbyniadau a rhagor.
Mae’r cwrs hwn angen i ddysgwyr gymryd rhan mewn gwersi theori yn ogystal â gwersi ymarferol lle mae asesiadau’n cael eu cynnal mewn gweithle byw heb arholiadau ffurfiol.
Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, gydag awydd ac ymrwymiad i gwblhau'r cwrs y byddent yn dymuno ei astudio.
Bydd hyfforddiant ac asesiadau yn digwydd yn bennaf yn ein cyfleuster yn y Barri, Ystafell Morgannwg, lle mae ein bwyty prysur yn croesawu cwsmeriaid am ginio a swper a digwyddiadau a derbyniadau drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dewisais astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro gan nad oedd yr ysgol yn addas i mi ac nid oedd gennyf ddiddordeb yn unrhyw un o’r pynciau.
Mae’r cwrs Lletygarwch wedi agor cymaint o ddrysau i mi – yn cynnwys cyrraedd rowndiau cyn-derfynol Nestle Torgue d’Or, gan ennill yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac ennill y ‘Gorau yn y Genedl’ yn WorldSkills yn Lyon yn 2024. Mae’r Coleg wedi rhoi i mi’r sgiliau i gyflawni fy nodau ac wedi fy helpu i gael swydd yn Lucknam Park fel ‘chef de rang’ yn Restaurant Hywel Jones. Yn ddiweddar, bu i mi gwblhau fy HND mewn Rheoli Lletygarwch yn y coleg cyn symud ymlaen i ddechrau cwrs gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd modd ichi arbenigo mewn naill ai blaen tŷ neu gegin ar Lefel Tri. Gallwch fynd ymlaen i naill ai cwrs rheoli Lletygarwch Lefel Tri sef blaen tŷ neu fynd ymlaen i astudio cwrs coginio proffesiynol Lefel Tri.