Yn berffaith i ddechreuwyr, bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno i’r amrywiaeth o dechnegau offer llaw ac yn rhoi’r sgiliau gwaith coed sy’n hanfodol er mwyn i chi greu pethau gan ddefnyddio pren.
Bwriad y cwrs hwn yw rhoi’r sgiliau a’r dulliau i chi a ddefnyddir mewn gwaith coed sylfaenol, megis: offer a’u pwrpas, mesur, marcio, torri, ac uniadau sylfaenol gwaith coed.
Bydd angen pâr o esgidiau diogelwch ac oferôls gwaith ar fyfyrwyr.
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £20.00
Dim gofynion mynediad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gallwch fynd ymlaen i gwrs Gwaith Coed DIY neu Aml-sgiliau Lefel 1 mewn Adeiladwaith.