Gweithio mewn Gofal Plant

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Dwyrain Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster gweithio mewn Gofal Plant yn rhaglen o gyrsiau carlam sy’n cynnwys cymhwyster lefel 1 a 2. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr a ddymuna ddatblygu’n gyflym i’r gweithle, ac mae’n cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau gofal a chyflogadwyedd meddal, ynghyd â phrif elfennau’r cymhwyster gofal plant.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd dysgwyr yn astudio Cydraddoldeb ac amrywiaeth, cyfathrebu, a sgiliau datblygu personol gydag egwyddorion gofal plant, dysgu a datblygu drwy chwarae, diogelu ac iechyd plant, llesiant, dysgu a datblygu.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Dwyrain Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CREH2F04
L2

Cymhwyster

Working in Childcare

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

103,500

Ar hyn o bryd, mae bron i 103,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a disgwylir i’r niferoedd cyflogaeth gyrraedd 105,000 erbyn 2027 (Lightcast 2022).

Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall dysgwyr symud at gwrs dysgu yn seiliedig ar waith er mwyn ehangu eu sgiliau gofal plant ymarferol ymhellach o fewn y gweithle.

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

"Mae’r coleg wedi rhoi i mi’r sgiliau i wella fy ngwybodaeth drwy ddosbarthiadau a phrofiadau gwaith, gan fy nghaniatáu i ennill profiadau go iawn yn ogystal â chyfleoedd”

Aliyah Bowring
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3

Lleoliadau

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL