Sgiliau Gweinyddiaeth Swyddfa

L2 Lefel 2
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein cwrs Diploma mewn Gweinyddiaeth City and Guilds wedi’i ddylunio i roi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau sy’n cael eu hystyried yn hanfodol gan gyflogwyr heddiw. O Wasanaeth Cwsmeriaid i Brosesu Testun, mae'r rhaglen hon yn cynnwys popeth sydd angen ichi ei wybod am swydd weinyddol. 

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r cwrs yn cynnwys gwybodaeth gysylltiedig â’r canlynol:

  • Egwyddorion darparu gwasanaethau gweinyddol        
  • Egwyddorion rheoli gwybodaeth a chynhyrchu dogfennau 
  • Cefnogi'r amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid
  • Defnyddio meddalwedd prosesau geiriau E-bost

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gymysgedd o ddarlithoedd byr, gan weithio gyda myfyrwyr eraill mewn parau a grwpiau, drwy arddangosiadau a gwaith ymarferol i’ch helpu i ddatblygu cyfanwaith o sgiliau gweinyddol da.  

Gofynion mynediad

4 TGAU Graddau A* i D gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.

Addysgu ac Asesu

Aseiniadau, asesiadau ymarferol a phrofion ar-lein parhaus.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

BSCC2F04
L2

Cymhwyster

Office Administration Skills

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE