Microsoft Excel - Canolradd

L2 Lefel 2
25 Mehefin 2025 — 25 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Yn barod i fynd tu hwnt i’r pethau sylfaenol?

Gan ychwanegu at wybodaeth bresennol, byddwch yn cael eich cyflwyno i amrywiaeth eang o adnoddau ymarferol canolradd er mwyn helpu i reoli data’n fwy effeithlon, perfformio cyfrifiadau mwy pwerus a dechrau gweithio gyda nodweddion fel VLOOKUP, siartiau a thablau colynnu. 

Cewch ddisgwyl dysgu ymarferol sy’n hybu eich sgiliau a’ch hyder i ystyried hyfforddiant uwch Excel.  

Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am - 4:00pm.  

Cliciwch ar y cyd â’n Tiwtor Cwrs, cwblhewch weithgareddau ymarferol ac ar sail senario, a chymerwch olwg fanylach ar adnoddau a nodweddion Microsoft Excel a amlinellir isod:

Mewnbynnu a Threfnu Data

- Addasu uchder rhesi a lled colofnau, gan gynnwys awto ffitio
- Cuddio rhesi, colofnau a thablau
- Amlapio Testun
- Cyfuno a Chanoli
- Fformatio celloedd
- Fformatio fel Tabl
- Fformatio  Amodol Sylfaenol
- Cyfeirnodi Celloedd Absoliwt v Perthynol, gan gynnwys cyfeirnodau cymysg
- Rheoli Sylwadau
- Argraffu Uwch
- Rhewi paenau i 2 gyfeiriad / Torri Paenau 

Rheoli Data

- Hidlyddion
- Dangos Fformiwlâu
- Dilysu Data
- Gwirio Data - Cyfeirnodau celloedd cylchol ac olrhain rhagesiamplau a dibynyddion

Cyfrifiadau, Ffwythiannau a Fformiwlâu Canolradd

- Cyfrifiadau mwy cymhleth a defnyddio Dangosyddion
- Datganiadau IF
- SumIF
- CountIF
- VLookup
- Cyfuno (Concatenate)

Siartiau Sylfaenol

- Siartiau Bar
- Siartiau Pei
- Siartiau Llinell
- Echel, Allwedd a Theitlau
- Symud a newid maint

Tablau Colynnu Sylfaenol

- Creu Tablau Colynnu
- Rheoli Meysydd
- Trefnu sylfaenol

Dewch â gliniadur eich hun neu cewch fenthyg un o’n rhai ni ar y diwrnod!

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £40.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych:

  • yn 19+ oed
  • heb fod mewn addysg amser llawn
  • ⁠yn gallu mynychu pob sesiwn
  • gyda phrofiad o ddefnyddio Microsoft Excel ar gyfer rheoli data

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

25 Mehefin 2025

Dyddiad gorffen

25 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSIE2P01
L2

Cymhwyster

CAVC Certificate

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Mae’r cwrs Uwch Microsoft Excel yn dilyn y cwrs hwn, sy’n ehangu ar y wybodaeth a ddysgwyd ac yn ychwanegu ati.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE