Mae’r cwrs Tystysgrif Busnes Lefel 3 EDEXCEL a Diploma Busnes BTEC yn gymhwyster ymarferol sy’n berthnasol i’r byd gwaith. Mae’r cwrs hwn yn gyfwerth â dau gymhwyster Safon Uwch. Mae myfyrwyr yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion gwaith go iawn.
Caiff Tystysgrif Estynedig y Sefydliad Cenedlaethol Lefel 3 EDEXCEL ei astudio yn y flwyddyn gyntaf ac mae wedi'i wneud o 4 uned:
Bydd cwblhau Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn arwain at drosglwyddiad i Ddiploma Lefel 3 EDEXCEL yn yr ail flwyddyn ac at astudio 4 uned arall.
Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Llythrennedd a Rhifedd.
4 TGAU Gradd A* - C yn cynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) neu gymhwyster Lefel 2 Busnes gyda Gradd TGAU A*-C mewn Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth). Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol gael sgôr IELTS o 5.5 neu uwch.
Aseiniadau rheolaidd ac arholiadau ysgrifenedig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dwi wedi mwynhau fy amser Busnes yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn arw.
Dwi wedi dysgu cymaint! Mae’r addysg a’r gefnogaeth wedi bod yn wych drwy gydol fy amser yma.
Mae'r cymhwyster hwn yn baratoad da ar gyfer cyflogaeth a dilyniant i gyrsiau addysg uwch mewn maes sy'n gysylltiedig â busnes.