Tystysgrif Sylfaen AAT mewn Cadw Cyfrifon

L2 Lefel 2
Rhan Amser
8 Hydref 2026 — 17 Mehefin 2027
Campws y Barri
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau cyfrifyddu ymarferol yn y system cadw cyfrifon cofnod dwbl ac o ran defnyddio dogfennau a phrosesau cysylltiedig, gan ennill dealltwriaeth fod systemau cyfrifeg digidol yn awtomeiddio rhai o'r camau yn y broses.

Bydd myfyrwyr yn ymdrin â chofnodion o ran cywirdeb, yn gwneud cofnodion mewn llyfrau a chyfrifon priodol ac yn cyfrifo anfonebau gwerthiannau a nodiadau credyd

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon

Mae’r uned hon yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o systemau cadw cyfrifon â llaw ac yn ddigidol, gan gynnwys y dogfennau a’r prosesau cysylltiedig. Bydd myfyrwyr yn dysgu’r egwyddorion sylfaenol sydd wrth wraidd systemau cadw cyfrifon cofnod dwbl.

Egwyddorion Rheolyddion Cadw Cyfrifon

Mae’r uned yn meithrin y wybodaeth a’r sgiliau a gafwyd o astudio Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon ac mae’n edrych ar gyfrifon rheoli, cyfnodolion a chysoniadau. Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i baratoi’r cyfrifon rheoli treth ar werth (TAW), yn ogystal â’r llyfrau cyfrifon derbyniadau a symiau taladwy. Byddant yn defnyddio’r cyfnodolion i gofnodi amrywiaeth o drafodion, gan gynnwys cywiro gwallau. Bydd myfyrwyr yn gallu ail-ddrafftio’r fantolen brawf, gan ddilyn addasiadau.

Mae’r ddwy uned yn cael eu hasesu drwy arholiad gosodedig AAT gyda marc pasio o 70%

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £142.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £370.00

Gofynion mynediad

Cyfweliad llwyddiannus a lefelau llythrennedd a rhifedd da.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Hydref 2026

Dyddiad gorffen

17 Mehefin 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

4 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

BSCR2P93
L2

Cymhwyster

AAT Foundation Certificate in Bookkeeping

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, mae’r cwrs hwn yn cynnig datblygiad i L3 Cadw Cyfrifon neu’r Cwrs Cyfrifyddu L3 llawn.

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ