Cadw Cyfrifon gyda Busnes a Gweinyddiaeth

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sydd eisiau dysgu am Gadw Cyfrifon ac sydd â dealltwriaeth sylfaenol o Fusnes a Gweinyddiaeth

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Lefel 2 AAT Cadw Cyfrifon a fydd â dau arholiad.

Tystysgrif Lefel 2 mewn Busnes a Gweinyddiaeth, a gaiff eu hasesu drwy waith cwrs ac aseiniadau. Bydd yr unedau busnes yn cynnwys

  • Deall Sefydliadau Busnes
  • Cyfathrebu Effeithiol yn y Gweithle
  • Deall Cyllid mewn Cyd-destun Busnes
  • Cefnogi Cynaliadwyedd mewn Amgylchfyd Swyddfa

Gofynion mynediad

4 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Bydd angen i chi fynychu cyfweliad a chwblhau asesiad addasrwydd.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Gall cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at

·       Lefel 3 AAT Cyfrifeg

·       Lefel 3 Marchnata

·       Lefel 3 Gweinyddiaeth Broffesiynol

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE