Wedi'i gyflwyno dros 6 diwrnod, mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at bersonél profiadol sy'n gweithio yn y diwydiant trydanol, sy'n awyddus i ennill dealltwriaeth o Ardystio a Dilysu Cychwynnol ar gyfer Gosodiadau Trydanol ynghyd ag Adroddiadau Cyflwr Gosodiadau Trydanol.
Un arholiad amlddewis ar-lein a dau asesiad arolygu ac asesu ymarferol.
Mae dysg cyn y cwrs yn hanfodol. Rhaid ichi feddu ar wybodaeth ymarferol o BS7671 A+22 a Nodyn Cyfarwyddyd 3.
Ffi Arholiad : £85.70
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £746.03
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer trydanwyr sydd wedi cymhwyso’n briodol yn unig. Mae’r cymwysterau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer trydanwyr sy’n meddu ar gymwysterau electrodechnegol Lefel 3, sy’n awyddus i ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), dysgu sgiliau newydd a gwella eu dealltwriaeth o arolygiad a phrofion cyfnodol gosodiadau trydanol. NI ddylai dysgwyr newydd i’r diwydiant, nad ydynt yn meddu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad digonol i ymgymryd ag arolygu a phrofi mewn modd diogel a chymwys, ymgymryd â’r cymwysterau arolygiad a phrofion cyfnodol. Yn ogystal, nid yw'r cymwysterau hyn yn addas ar gyfer dysgwyr â diffyg profiad o weithio yn y sector electrodechnegol, neu ddysgwyr nad ydynt eisoes yn meddu ar gymwysterau electrodechnegol Lefel 3. Bydd gofyn i ymgeiswyr gael cyfweliad cyn cofrestru er mwyn asesu addasrwydd cyn cofrestru ar gyfer y cymhwyster.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Fe ddewisais astudio yn y Coleg oherwydd y cyfleusterau sydd yno ac oherwydd i mi glywed cymaint o bethau da am y Coleg yn lleol. Rwyf wedi mwynhau datblygu fy sgiliau yn y gweithdai, gwneud ffrindiau a dysgu gan y staff a’r darlithoedd – maent yn wybodus dros ben. Rhoddodd y coleg y cyfle i mi gystadlu yng nghystadleuaeth Sgiliau’r Byd y flwyddyn ddiwethaf, ac fe wnes i fwynhau’n arw. Roeddwn hefyd yn lwcus iawn o ennill Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer y Gwasanaethau Adeiladu, ac roedd hynny’n uchafbwynt arall i mi. Bellach, rwyf wedi cael fy nerbyn i astudio cwrs gradd ym Mhrifysgol Caerfaddon. Unwaith y byddaf yn cwblhau fy ngradd, byddaf yn edrych i gael ychwaneg o brofiad gwaith cyn mynd ymlaen i sefydlu fy musnes fy hun.
Cyrsiau Systemau Ffotofoltäig Solar Domestig a Systemau Storio Ynni Trydan Lefel 3.