Phlymio gyda Electrotechnego l- Rhaglen Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Sefydliad Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig yn darparu cyflwyniad eang ar adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, yn y sectorau. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr yn y gwaith, addysg bellach, ac ysgol chweched dosbarth.

Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i astudio ystod o gyrsiau Peirianneg Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu eraill (Plymio a Gwresogi / Gosod Trydanol / Rheweiddio) sy’n berthnasol i’w maes diddordeb masnach.

Gellir ei gymryd naill ai fel rhaglen ddysgu lawn amser a ddarperir dros flwyddyn fel arfer, neu raglen ddysgu ran amser fel rhan o fframwaith prentisiaeth.  

Bydd y cwrs yn canolbwyntio'n gyfartal ar y ddwy grefft.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd pob dysgwr yn cwblhau unedau craidd sy’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth ragarweiniol a dealltwriaeth o:

  • gyflwyniad i’r sectorau adeiladu ac amgylchedd adeiledig
  • cylch bywyd yr amgylchedd adeiledig, y rolau swydd o’i fewn, a’r dibyniaethau rhwng pobl sy’n cyflawni’r rolau hynny
  • sut i hyrwyddo a chynnal iechyd a diogelwch ar gyfer yr unigolyn ac eraill; a
  • sgiliau cyflogadwyedd perthnasol i waith yn y dyfodol.

Yn ychwanegol at yr unedau ‘craidd’ hyn, bydd dysgwyr yn astudio dau lwybr masnach ac yn treulio amser yn dysgu sgiliau a fydd yn cynnwys cynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau cyffredin.

Plymio a Gwresogi Domestig: Pwrpas yr uned hon yw i ddysgwyr archwilio’r systemau gwresogi oer a phoeth o fewn eiddo domestig a’r cymwyseddau gwaith pibellau sylfaenol sy’n sail i’r gwaith ar y systemau hyn. Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gynllunio a chreu eu gwaith gosod pibellau eu hunain gan ddefnyddio ystod o ddeunyddiau, dulliau uno a thechnegau plygu.

Systemau ac Offer Electrodechnegol: Pwrpas yr uned hon yw i ddysgwyr ddysgu a chynnal gwaith trydanol sylfaenol. Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gynllunio, cyflawni a gwerthuso eu gwaith gan ddefnyddio ystod o ddeunyddiau, dulliau a thechnegau ar gyfer cylchedau trydanol sylfaenol gan gynnwys cylchedau goleuo unffordd a chylchedau rheiddiol.

Byddwch yn astudio yn ein canolfannau a chyfleusterau adeiladu pwrpasol. Mae’r rhain yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer theori a gweithdai enfawr sy’n benodol i fasnach lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol bob wythnos gan ddefnyddio offer ac adnoddau safon diwydiant.

Mae eich cwrs yn cynnwys aseiniadau penodol a ddefnyddir i fesur eich datblygiad sgiliau a’ch asesiad diwedd blwyddyn, gan gynnwys profion sgiliau ymarferol ac arholiadau ar-lein.

Gofynion mynediad

• Rhaid i fyfyrwyr fod yn 16 oed o leiaf
• Bydd myfyrwyr newydd yn cael cyfweliad/prawf lleoliad cyn dechrau eu cwrs i sicrhau eu bod yn cael eu gosod ar y lefel gywir
• Hanfodol i feddu ar Ddiploma Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu neu o leiaf dwy flynedd o brofiad perthnasol yn y grefft, neu 4 TGAU graddau A* i C gan gynnwys Mathemateg.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rwy’n mwynhau dysgu fy nghrefft yma yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae’r athrawon yn hynod wybodus a chefnogol. Rwy’n edrych ymlaen at gymhwyso a dechrau fy musnes fy hun.

Ibraheem Fergani
Myfyriwr Plymwaith a Theilsio Lefel 3 presennol

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

DB2,
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ