Os ydych yn awyddus i roi hwb i'ch gyrfa ac ennill dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o ystod o grefftau yn y Diwydiant Gwasanaethau Adeiladu, yna mae ein Diploma Lefel 1 Aml Sgiliau yn lle rhagorol i ddechrau arni.
Mae'r cymhwyster hwn yn berffaith i'r unigolion hynny sy'n awyddus i gael cyflwyniad i'r ystod o wasanaethau adeiladu adeiladwaith sydd ar gael, a bydd yn gymorth i chi benderfynu pa grefft sy'n gweddu fwyaf ar eich cyfer chi. Yn cael ei addysgu yn ein canolfannau a chyfleusterau adeiladwaith pwrpasol, bydd y cwrs yn ymdrin ag ystod o sgiliau llaw a thasgau ymarferol yn y meysydd crefft canlynol: Plymio & Mewnosod Trydanol.
Nid oes angen gwybodaeth na phrofiad blaenorol.
Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau yn ein hystafelloedd dosbarth a gweithdai pwrpasol, gan ddefnyddio offer a deunyddiau addas. Mae'r cwrs hwn wedi'i wneud o nifer o unedau gan gynnwys:
Ffi Cwrs: £27.50
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
3 TGAU Gradd A*-D. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar sail cyfweliad ac archwiliad sgiliau boddhaol, gydag awydd ac ymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maen nhw am ei astudio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Rwy’n mwynhau dysgu fy nghrefft yma yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae’r athrawon yn hynod wybodus a chefnogol. Rwy’n edrych ymlaen at gymhwyso a dechrau fy musnes fy hun.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus fynediad i amrywiaeth o lwybrau gyrfa, gan gynnwys Rheoli Adeiladu, Pensaernïaeth a Pheirianneg Sifil.