Rheoliadau ODS a Nwy F

L2 Lefel 2
Rhan Amser
14 Ebrill 2025 — 30 Ebrill 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Yn cael ei adnabod yn flaenorol fel y cymhwyster Trin Oeryddion yn Ddiogel (2078), nod y cwrs Rheoliadau Nwyon F ac ODS (2079-11 Categori 1) yw darparu'r wybodaeth a'r sgiliau i'r ymgeisydd i weithio ar fewnosod, gwasanaethu, cynnal a chadw, adfer a gwirio gollyngiad offer rheweiddiad sefydlog, aerdymheru a phwmp gwres sy'n cynnwys oeryddion sydd wedi'u dosbarthu naill ai fel nwyon wedi'u Fflworeiddio (F) neu Sylweddau sy'n Teneuo'r Osôn (ODS).

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gysylltu â'r gofynion cyfreithiol ac yn dangos sut i ddal, atal a lleihau allyriadau nwyon-F, yn ôl y protocol Kyoto.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd ymgeiswyr yn ennill sgiliau, gwybodaeth a thechnegau digonol i:

  • Saernïo a gosod uniadau mecanyddol ac uniadau wedi'u presyddu
  • Cynnal prawf pwysedd a gwagio i BSEN378
  • Gwefru cymysgedd seotropig (eg.R404A), rhedeg y system a gwirio'r cyflwr oeryddol
  • Cynnal gwiriad gweledol am ollyngiadau, asesu'r system yn anuniongyrchol am wefr isel, a defnyddio canfodydd gollyngiadau electronig i brofi am ollyngiadau
  • Gosod a datgysylltu medryddion ar y system redeg gyda falfiau gwasanaethu a falfiau Schrader
  • Adfer yr oerydd
  • Cadw llyfrau log a chofnodion nwyon wedi'u fflworeiddio
  • Trin oeryddion yn ddiogel a chael gwared ar sylweddau sydd wedi'u gwahardd dan y gyfraith

Bydd rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u cyflogi yn y diwydiant fel peiriannydd oeri neu mewn swydd gyfatebol.

Bydd yr asesiad yn seiliedig ar arholiad ar-lein ac asesiad ymarferol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Ffi Cwrs: £878.00

Ffi Arholiad : £71.00

Gofynion mynediad

4 TGAU Gradd A* - D, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg, gyda chyfweliad boddhaol neu brofiad gwaith perthnasol, diweddar. Mae'n ofynnol eich bod yn cael eich cyflogi'n llawn gan Gyflogwr Rheweiddio neu Aerdymheru cymwys.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

14 Ebrill 2025

Dyddiad gorffen

30 Ebrill 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

35 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

HPCC2P05
L2

Cymhwyster

50057303 City and Guilds Level 2 Award in F-Gas and ODS Regulations Category

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

9.1%

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

DB2,
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE