Electrodechnegol a Phlymio - Cyn-sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

L1 Lefel 1
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 27 Mehefin 2026
Campws y Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs adeiladu cyn-sylfaen hwn wedi’i ddylunio i roi dull sylfaenol gweithrediadau adeiladu i fyfyrwyr. Mae’n paratoi dysgwyr i symud ymlaen i’r cymhwyster Sylfaen, ac wedi’i anelu at y myfyrwyr hynny nad oes ganddynt unrhyw brofiad ymarferol yn y meysydd Plymio a Thrydanol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol yn ymwneud â gweithgareddau adeiladau a byddwch yn ymdrin ag ystod o weithgareddau ac yn ennill profiad o’r offer a’r adnoddau gan gynnwys:

  • Systemau ac Offer Electrodechnegol
  • Plymio a Gwresogi Domestig

Byddwch yn astudio yn ein canolfannau a chyfleusterau adeiladu pwrpasol. Mae’r rhain yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer theori a gweithdai enfawr sy’n benodol i fasnach lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol bob wythnos gan ddefnyddio offer ac adnoddau safon diwydiant.

Mae eich cwrs yn cynnwys aseiniadau penodol a ddefnyddir i fesur eich datblygiad sgiliau a’ch asesiad diwedd blwyddyn, gan gynnwys profion sgiliau ymarferol ac arholiadau ar-lein.

Gofynion mynediad

3 TGAU Gradd A*-D. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar sail cyfweliad ac archwiliad sgiliau boddhaol, gydag awydd ac ymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maen nhw am ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

9.1%

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall myfyriwr symud ymlaen i’r cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, lle bydd dysgwyr yn cael dewis crefftau deuol, cyn symud ymlaen i’r cymhwyster Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu. O ganlyniad, hon yw’r flwyddyn gyntaf o gwrs tair blynedd llawn amser.

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rwy’n mwynhau dysgu fy nghrefft yma yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae’r athrawon yn hynod wybodus a chefnogol. Rwy’n edrych ymlaen at gymhwyso a dechrau fy musnes fy hun.

Ibraheem Fergani
Myfyriwr Plymwaith a Theilsio Lefel 3 presennol