Mae Diploma Lefel 3 VTCT mewn Adweitheg yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol a fydd yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa fel adweithegydd. Mae'r cymhwyster wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 16 oed neu hŷn a bydd yn eich cefnogi i ennill cyflogaeth fel rheolwr adweithegydd, gan fod yr uned sydd ynghlwm â'r cymhwyster hwn yn mynd i'r afael â'r holl sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.
Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol sydd yn cynnwys yr elfennau hanfodol i weithio'n effeithiol fel adweithegydd megis, unedau gorfodol yn mynd i'r afael a'r canlynol; gwybodaeth a dealltwriaeth o'r egwyddorion, ymarfer ac ymarfer busnes, anatomi, ffisioleg a phatholeg ar gyfer therapïau cyflenwol. Byddwch hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth a sgiliau ymarferol i gynnig triniaethau adweitheg safonol.
Drwy gydol y cymhwyster yma byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth am anatomi a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, a gofal cleient. Byddwch hefyd yn datblygu amrywiaeth o sgiliau technegol gan eich galluogi i ddefnyddio technegau adweitheg ar gyfer ymlacio a hyrwyddo hunaniachaol i'ch cleientiaid. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau rhyngbersonol fydd yn eich helpu chi i gyfathrebu'n effeithiol gyda chleientiaid.
Ffi Arholiad : £128.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00
Ffi Cwrs: £172.00
Gellir cael mynediad i’r cymhwyster hwn trwy fod wedi ennill cymhwyster Lefel 2 blaenorol mewn Therapi Cyflenwol a/neu brawf sgiliau a chyfweliad llwyddiannus.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cwrs llawn amser VTCT Lefel 3 Therapïau Cyflenwol, hunangyflogedig, salon, sba neu HND mewn therpïau clinigol os oes gan y dysgwr gymhwyster tylino hefyd.