Mae’r Diploma Lefel 3 VTCT mewn Technoleg Ewinedd yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol fydd yn eich paratoi at yrfa fel technegydd ewinedd.
Mae’r cymhwyster wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr 16 mlwydd oed neu hŷn a bydd yn eich cefnogi i gael gwaith fel technegydd ewinedd, gan fod yr unedau sydd yn y cymhwyster hwn yn ymdrin â’r holl sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.
Cymhwyster galwedigaethol yw hwn sy’n cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio'n effeithiol fel technegydd ewinedd, gan gynnwys unedau gorfodol sy’n ymdrin â’r canlynol:
• cynnig triniaethau ewinedd dwylo a thraed
• gosod a chynnal estyniadau ewinedd acrylig, gwydr ffibr a gel
• cynnal iechyd a llesiant personol
• iechyd a diogelwch
• gofal cleient
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymhellach drwy ddewis nifer o unedau arbenigol dewisol sy’n cynnwys:
• dylunio a gosod celf ewinedd gan gynnwys celf ewinedd 3D
• gwella ewinedd gyda ffeiliau trydan
• hyrwyddo cynhyrchion ac arddangos stoc er mwyn hybu gwerthiannau.
Mae strwythur y cymhwyster hwn yn cynnig hyblygrwydd i chi ddatblygu’r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio fel technegydd ewinedd.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys asesiadau ymarferol ac arholiadau ar-lein fel rhan o’r cymhwyster.
Yn ychwanegol, bydd disgwyl hefyd i ddysgwyr brynu:
• Gwisg
• Cit Technoleg Ewinedd Lefel 3
• E-ffeil
Dull dysgu cyfunol fydd i’r addysgu ar y cwrs hwn, a bydd angen i chi gael mynediad at Microsoft Teams a mynychu asesiadau ymarferol a darpariaeth ymarferol ar y safle.
Ffi Arholiad : £128.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00
Ffi Cwrs: £172.00
Gall mynediad i'r cymhwyster hwn fod drwy gymwysterau blaenorol a / neu hyfforddiant, prawf sgiliau llwyddiannus a chyfweliad. Bydd angen y canlynol ar fyfyrwyr:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi i weithio fel technegydd ewinedd. Byddwch yn gymwys i ymuno â chymdeithas broffesiynol ac ennill yswiriant fel technegydd ewinedd. Mae cyfleoedd gyrfaol fel technegydd ewinedd yn bodoli mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys:
• Gweithio mewn salon ewinedd masnachol
• Gweithio mewn ‘bar ewinedd’ consesiwn manwerthu
• Gweithio’n annibynnol/hunan-gyflogedig/symudol/gartref