HNC mewn Artistwaith Colur Technegol, Teledu, Ffilm a Theatr

L4 Lefel 4
Llawn Amser
9 Medi 2024 — 23 Mai 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae artist colur yn sicrhau bod gan fodelau, perfformwyr a chyflwynwyr golur a steiliau gwallt addas ar gyfer ymddangos o flaen camerâu neu gynulleidfa.  Mae hyn yn cynnwys;


  • Ffilm
  • Cerddoriaeth Fyw
  • Tynnu Lluniau Ffotograffig
  • Teledu
  • Theatr


Mae'n rhaid i artist colur feddu ar ddawn greadigol, gallu ymarferol a gwybodaeth ddiweddar ar dueddiadau ffasiwn a harddwch.   Mae'r gwaith yn cynnwys creu delweddau a chymeriadau drwy ddefnyddio colur, steiliau gwallt a phrostheteg gan gadw at friff.

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad eang i fyfyrwyr i'r maes pwnc drwy graidd gorfodol o ddysgu, a hefyd yn caniatáu i ddysgwyr gaffael sgiliau a phrofiad drwy ddewis unedau dewisol perthnasol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Modiwlau y byddwch yn eu hastudio:

  • Y Diwydiant Celfyddydau Perfformio
  • Datblygiad Proffesiynol
  • Sgiliau Heneiddio gyda Cholur
  • Gwneud Celf Corff
  • Effeithiau Arbennig
  • Rhoi Colur a Thrin Gwallt
  • Gwallt a Cholur Ffasiwn Golygyddol a Ffasiwn
  • Gwallt a Cholur Cyfnod

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £6,000.00

Gofynion mynediad

  • Cymhwyster Lefel 3 mewn colur, gwallt a/neu bwnc perthnasol.
  • Efallai y bydd cymwysterau Lefel 3 eraill yn cael eu hystyried. Yn ogystal,
  • TGAU mewn Mathemateg a Saesneg gyda lleiafswm o radd C (neu 4)
  • Mae Ceisiadau Rhyngwladol angen IELTS 5.5; Mae'n rhaid i safon Darllen ac Ysgrifennu gyrraedd 5.5 Ystyrir ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, heb y gofynion mynediad sylfaenol ond rhoddir ystyriaeth i brofiad gwaith perthnasol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

9 Medi 2024

Dyddiad gorffen

23 Mai 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

16 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBHE4F50
L4

Cymhwyster

Pearson BTEC Level 4 Higher National Certificate in Performing Arts
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE