L3 Lefel 3
Rhan Amser
13 Chwefror 2025 — 19 Mehefin 2025
Campws y Barri
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs newydd sbon hwn wedi’i ddylunio ar gyfer pawb sy’n frwd dros ofal croen. Cynhelir y cwrs am 1 diwrnod yr wythnos am 10 wythnos. Mae'n gymhwyster therapi harddwch sy’n targedu dysgwyr heb unrhyw gefndir ffurfiol mewn hyfforddiant therapi harddwch, sydd eisiau cael mynediad at astudiaeth ychwanegol o driniaethau therapi uwch ar Lefelau 4 ac uwch.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys unedau ar lefelau 2 a 3 wedi’u cyfuno i ddarparu’r wybodaeth sylfaenol i ganiatáu dilyniant uniongyrchol i hyfforddiant moddolrwydd penodol ar lefel 4+.

Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r unedau gorfodol:

  • Cynnal iechyd a diogelwch yn y salon
  • Dadansoddiad croen a gofal croen wyneb
  • Ymgynghoriad a gofal cleient
  • Anatomeg, ffisioleg a phatholeg
  • Gwyddoniaeth drydanol

Trwy gydol y cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ofynion iechyd a diogelwch perthnasol, anatomeg, ffisioleg a phatholeg a gwyddoniaeth drydanol, ochr yn ochr â dadansoddiad croen a phrotocolau ymarferion triniaethau diogel ar gyfer gofal croen wyneb. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i gynghori a thrafod gyda chleientiaid, a darparu cyngor penodol ar gyfer gofal ôl-driniaeth yn y cartref.

Dulliau addysgu ac asesu

Bydd dulliau addysgu yn cynnwys astudio annibynnol, arddangosiadau ymarferol a darpariaeth ffurfiol. 

Bydd dulliau asesu yn cynnwys arholiadau theori, aseiniadau ac asesiadau arsylwi ymarferol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £102.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £200.00

Gofynion mynediad

TGAU graddau C neu uwch, neu gymhwyster cyfwerth.

Oedran gofynnol: 18+

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

13 Chwefror 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

6 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

HBCR3P06
L3

Cymhwyster

VTCT (ITEC) Level 3 Certificate in Access to Aesthetic Therapies

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch Lefel 2 a 3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer astudiaeth ychwanegol ar lefel 4+ yn y diwydiant estheteg harddwch. Bydd cyflawni'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach drwy gwblhau cymwysterau arbenigol ar Lefel 4 a 5, er enghraifft:

  • Tystysgrif Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Pilio Croen
  • Tystysgrif Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Nodwyddo Croen
  • Tystysgrif Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Uwchsain
  • Tystysgrif Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Dermablaenio
  • Tystysgrif Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Uwchsain Ffocws Dwysedd Uchel (HIFU)
  • Tystysgrif Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Microbigmentiad Croen Pen
  • Tystysgrif Lefel 5 VTCT (ITEC) mewn Microbigmentiad ar gyfer Cuddliwio ac Adnewyddu

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ